Cofnodion:
Nododd yr
aelodau y byddai'r camau gweithredu yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol
2020-2024 yn cael eu hadolygu, pan fydd y cyngor yn symud i gyfnod adfer o
bandemig COVID-19.
Penderfyniadau:
1.
Bydd y ddogfen yn cael ei hargymell i'r cyngor i'w chymeradwyo, cyn ei
chyhoeddi fel atodiad i Gynllun Cydraddoldeb Strategol 2020, a gyhoeddwyd ym
mis Medi 2020.
2.
Rhoi awdurdod dirprwyedig i Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol
a Chydraddoldeb i wneud unrhyw newidiadau y gallai fod eu hangen i'r camau
gweithredu, cyn eu cyhoeddi, ar yr amod nad yw newidiadau o'r fath yn newid
cynnwys y ddogfen sydd i'w hystyried gan y cyngor yn sylweddol.
Rheswm dros
y penderfyniad:
Bodloni'r
gofynion statudol a nodir yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau
Statudol) (Cymru) 2011.
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Ymgynghoriad:
Ni fu’r
eitem hon yn destun ymgynghoriad allanol, er y cynhaliwyd cyfnod o ymgynghori
cyhoeddus fel rhan o'r gwaith i ddatblygu'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol
rhwng 16 Ionawr a 20 Chwefror 2020. Yn
ogystal, mae grwpiau cydraddoldeb lleol, fel y'u cynrychiolir ar Grŵp
Cydraddoldeb a Chydlyniant Cymunedol y cyngor, wedi bod yn rhan o'r gwaith i
ddatblygu'r camau hyn.
Dogfennau ategol: