Cofnodion:
(Ar y pwynt
hwn yn y cyfarfod, ailddatganodd y Cynghorydd D Jones ei budd yn yr eitem hon a
gadawodd ar gyfer y drafodaeth a’r pleidleisio arni.)
Penderfyniadau:
1.
Cadarnhau'r gyllideb o £540,500 ar gyfer Grantiau i’r Trydydd Sector ar
gyfer 2021/22 fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
2.
Cymeradwyo dyfarnu grantiau i sefydliadau'r trydydd sector, fel y nodwyd yn
Atodiad 1 yr adroddiad a ddosbarthwyd.
3.
Peidio â dyfarnu'r grantiau ar gyfer y ceisiadau yn Atodiad 2 yr adroddiad
a ddosbarthwyd.
4.
Cadarnhau swm y grant sy'n daladwy i bob Partner Strategol fel y nodwyd yn
Atodiad 3 yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Rhesymau
dros y Penderfyniadau:
Cymeradwyo
grantiau i sefydliadau'r trydydd sector yn unol â Chynllun y cyngor.
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Dogfennau ategol: