Cofnodion:
Penderfyniadau:
1.
Cytuno ar y Rheolau Gweithdrefnau Contractau sy'n ymwneud â gwahodd tendrau
(Rheol 11 o’r Rheolau Gweithdrefnau Contractau) mewn perthynas ag ehangu’r
ddarpariaeth cymorth gan y Groes Goch Brydeinig ymhellach i deuluoedd sydd wedi
ymgartrefu yng Nghastell-nedd Port Talbot
dan y Rhaglen Adsefydlu Syriaid.
2.
Bod y Prif Weithredwr Cynorthwyol a'r Prif Swyddog Digidol yn cael eu
hawdurdodi i ymrwymo i gytundeb gyda'r Groes Goch Brydeinig er mwyn parhau i
ddarparu'r gwasanaeth cymorth gwaith achos hwn.
Rheswm dros
y penderfyniad:
Sicrhau y
gellir parhau i roi'r trefniadau angenrheidiol ar waith ar gyfer aelwydydd sy'n
cael eu hadleoli i ardal Castell-nedd Port Talbot dan y Rhaglen Adsefydlu
Syriaid.
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Dogfennau ategol: