Cofnodion:
Penderfyniadau:
1.
Cytuno ar eithrio'r gofyniad am gystadleuaeth o dan Reolau Caffael y Contract
sy'n ymwneud â gwahodd tendrau (Rheol 11 o’r Rheolau Gweithdrefnau Contractau)
mewn perthynas ag ehangu darpariaeth y gwasanaeth cwnsela arbenigol, a hysbysir
gan drawma, gan Platfform, i unigolion â phroblemau camddefnyddio sylweddau.
2.
Rhoi'r hawl i'r Prif Weithredwr Cynorthwyol a'r Prif Swyddog Digidol
ymrwymo i gytundeb â Platfform ar gyfer parhau i ddarparu'r Gwasanaeth Cwnsela
Arbenigol hwn.
Rheswm dros
y penderfyniadau:
Sicrhau y
gellir parhau i roi'r trefniadau angenrheidiol ar waith ar gyfer darparu
cwnsela arbenigol, a hysbysir gan drawma, ar gyfer unigolion â phroblemau
camddefnyddio sylweddau, yn rhanbarth Bae Abertawe.
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Dogfennau ategol: