Agenda item

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Gwnaeth yr aelodau canlynol ddatganiadau o fuddiant ar ddechrau'r cyfarfod.

 

Y Cynghorydd D Jones - Parthed: Cyllid Grant y Trydydd Sector – Dyfarnu Grantiau 2020-21, gan ei bod yn ymddiriedolwr ar fyrddau Age Connects CNPT, BAME a CGGCNPT. Ystyriodd fod y datganiad yn rhagfarnol a gadawodd y cyfarfod ar gyfer yr eitem.

 

Y Cynghorydd M Harvey - Parthed: Penderfyniadau a Wnaed drwy Gamau Gweithredu Brys yn ystod Argyfwng COVID-19, gan mai ef yw Maer Cyngor Tref Coedffranc, a grybwyllwyd ar dudalen 234 y pecyn adroddiadau.

 

Y Cynghorydd M Harvey - Parthed: Gorchymyn Traffig – Park Drive/Park Crescent, Sgiwen, gan mai ef ofynnodd am roi’r Gorchymyn Traffig hwn ar waith.  Ystyriodd fod y datganiad yn rhagfarnol a gadawodd y cyfarfod ar gyfer yr eitem.