Cofnodion:
Rhoddodd Arweinydd y Cyngor yr wybodaeth
ddiweddaraf i'r aelodau am y sefyllfa o ran COVID-19 sy’n dwysáu. Roedd
achosion wedi cynyddu i 389.4 fesul 100,000 ac ar hyn o bryd Castell-nedd Port
Talbot yw'r drydedd uchaf yng Nghymru. Roedd Profi ac Olrhain wedi nodi mai un
ffactor pwysig a gyfrannodd at y cynnydd hwn oedd pobl nad oeddent yn dilyn y
cyngor ar beidio â chymysgu.
Mynegwyd pryder gan y cyngor nad oedd rhai o'r
canllawiau a oedd yn cael eu cyhoeddi’n glir ac yn achosi dryswch. Roedd angen
i'r negeseuon a gyhoeddir yn y dyfodol fod yn syml ac yn glir. Tynnwyd sylw at y ffaith bod holl drigolion
Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe wedi derbyn taflen wybodaeth am COVID-19 a
bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cynnal ymgyrch debyg ledled Cymru. Hefyd,
mae'r grŵp cyfathrebu rhanbarthol wedi gwneud gwaith i gysylltu â grwpiau
sy'n gweithio gyda grwpiau diamddiffyn i sicrhau bod gwybodaeth COVID-19 ar
gael.
Cafwyd trafodaeth ynghylch a oedd yn bosibl sicrhau
bod y data ar COVID-19 ar gael i holl aelodau'r ward yn wythnosol. Esboniwyd
bod y data yn perthyn i'r Bwrdd Iechyd a'i fod yn cael ei ystyried gan
Lywodraeth Cymru ac yna'n cael ei rannu ag Awdurdodau Lleol, ac erbyn iddo gael
ei ddosbarthu, roedd eisoes yn hen oherwydd y newidiadau cyson yn yr wybodaeth
a gasglwyd. O ganlyniad, ni fyddai'r wybodaeth yn cynorthwyo aelodau ar lefel
wardiau. Gofynnwyd i'r aelodau barhau i hyrwyddo canllawiau COVID-19 yn eu
cymunedau.
Yn ogystal, nodwyd cynnydd mewn ysgolion uwchradd o
ganlyniad i'r gwyliau ysgol diweddar, lle nad oedd plant yn dilyn rheolau
pellter cymdeithasol ac yn parhau i gymysgu mewn grwpiau. O ganlyniad, bydd ysgolion yn aros ar agor
tan ddiwedd y tymor i alluogi ysgolion i barhau i reoli ymddygiad plant a phobl
ifanc tra byddant ar safle'r ysgol wrth ddilyn canllawiau COVID-19. Hysbyswyd y
cyngor hefyd am yr adroddiad rhagorol diweddar gan arolygiad yr Awdurdod
Gweithredol Iechyd a Diogelwch o ysgolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd
Port Talbot mewn perthynas â rhoi canllawiau COVID-19 ar waith. Byddai'r
adroddiad hwn yn cael ei ddosbarthu i'r cyngor os yw’n bosib.
Clywodd y cyngor am y gwaith y mae Orendy Margam
wedi bod yn ei wneud i geisio cynorthwyo cyplau â chynlluniau amgen ar gyfer
priodasau o ganlyniad i wneud yr Orendy yn ganolfan frechu dorfol.
Ymddeoliadau sydd ar ddod
Dywedodd yr arweinydd wrth yr aelodau mai hwn oedd
cyfarfod olaf y cyngor y byddai Mr S Phillips, Prif Weithredwr, yn bresennol
ynddo oherwydd ei ymddeoliad arfaethedig. Talodd yr arweinydd deyrnged i'r
gwaith a wnaed gan Mr Phillips a’i ymrwymiad wrth wella'r canlyniadau i gymunedau yng
Nghastell-nedd Port Talbot yn ystod ei gyfnod fel Prif Weithredwr a dymunodd
ymddeoliad hir a hapus iddo. Cefnogwyd hyn gan yr aelodau. Ymatebodd Mr
Phillips a dymunodd yn dda i'r awdurdod, yr aelodau a'i olynydd Mrs K Jones ar
gyfer y dyfodol.
Rhoddodd yr arweinydd wybod i'r aelodau hefyd am
ymddeoliad Mrs B Austin, Cynorthwy-ydd Personol i'r Prif Weithredwr. Diolchodd
yr arweinydd a Mr S Phillips i Mrs. Austin am yr holl gefnogaeth yr oedd wedi'i
rhoi iddynt dros nifer o flynyddoedd a dymunodd ymddeoliad hir a hapus iddi.
Cefnogwyd hyn gan yr aelodau. Roedd Mrs B Austin yn gwerthfawrogi'r sylwadau a
roddwyd gan swyddogion ac aelodau yn y cyfarfod heddiw.