Agenda item

Gorchymyn Traffig 2020 a Mesurau Arafu Traffig yn ardal Penscynor, Cil-ffriw (Dirymiad) (terfyn cyflymder 20 mya)

Cofnodion:

(Ar y pwynt hwn yn y cyfarfod, ailddatganodd y Cynghorydd D Jones ei budd yn yr eitem hon, a gadawodd y cyfarfod am y drafodaeth a'r bleidlais ar ôl hynny.)

 

Penderfyniadau:

 

1.   Bydd y gwrthwynebiadau'n cael eu cadarnhau gyda mesurau lleihau cyflymder parhaol amgen yn cael eu ceisio ar y cyd â Llywodraeth Cymru a Gan Bwyll.

 

2.   Cynghori Llywodraeth Cymru yn unol â hynny.

 

3.   Hysbysu gwrthwynebwyr o'r penderfyniad.

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

Lleihau cyflymder traffig yn barhaol er budd diogelwch ar y ffyrdd.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Cynhaliwyd ymarfer ymgynghori ym mis Medi 2020 gyda thua 30 eiddo yn derbyn llythyrau wedi'u dosbarthu â llaw gyda chynllun fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: