Cofnodion:
Penderfyniad:
Cymeradwyo
ymgynghori ar bolisi derbyn arfaethedig ysgolion cymunedol 2022/2023 fel y
nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Rheswm dros
y penderfyniad:
Er mwyn
galluogi'r cyngor i gyflawni dyletswyddau statudol a chanllawiau arfer da mewn
perthynas â derbyn disgyblion i ysgolion cymunedol.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Ymgynghoriad:
Mae'n
ofynnol i'r cyngor, fel awdurdod lleol, ymgynghori bob blwyddyn ar y trefniadau
derbyn ar gyfer yr ysgolion hynny y mae'n awdurdod derbyn iddynt.
Cyngor
Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw'r awdurdod derbyn ar gyfer
ysgolion cymunedol. Cyfrifoldeb y cyrff
llywodraethu perthnasol yw derbyn i ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol (h.y.
Ffydd).
Nodir
gofynion yr ymgynghoriad yng Nghôd Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru.
Yn achos y
cyngor hwn, mae angen ymgynghori â'r canlynol:
·
cyrff llywodraethu ysgolion cymunedol
·
cyrff llywodraethu gwirfoddol a gynorthwyir (h.y. ysgolion ffydd)
·
pob awdurdod lleol cyfagos
Yn ogystal â
hyn, dylai'r cyngor hefyd ymgynghori â'r Fforwm Derbyn ar gyfer yr ardal
berthnasol. Daw'r broses ymgynghori i
ben ar 29 Ionawr 2021.
Dogfennau ategol: