Cofnodion:
Penderfyniadau:
1. Nodi telerau'r Cytundeb Indemniad a
wnaed rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Hamdden Celtic.
2. Cymeradwyo cynyddu'r Ffi Reoli sy'n
daladwy i Hamdden Celtic hyd at ond heb fod yn fwy na £1.8m ynghyd â TAW, gyda
thaliadau'n cael eu rhyddhau'n fisol yn dilyn cyfarfod adolygu rhwng y cyngor a
Hamdden Celtic.
Rheswm dros y penderfyniadau:
Sicrhau bod trefniadau addas ar waith i gynnal y
ddarpariaeth o wasanaethau hamdden yn ardal Castell-nedd Port Talbot.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw
i mewn o dridiau.