Cofnodion:
Penderfyniadau:
1. Bydd yr ail bleidlais ar gyfer BID
Castell-nedd yn cael ei chefnogi gan y cyngor i helpu i adfer canol trefi.
2. Bydd y cyngor yn gweithredu fel
deiliad y bleidlais at ddibenion yr ail bleidlais.
Rheswm dros y Penderfyniadau:
Mae BID Castell-nedd wedi cael cefnogaeth dros y 5
mlynedd diwethaf ac wedi gwella canol y dref. O ganlyniad, cefnogwyd BID ym
Mhort Talbot gan CBSCNPT yn 2019. Mae
BID Castell-nedd yn nesáu at ddiwedd ei dymor (21 Mawrth) ac mae'n awyddus i
barhau.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw
i mewn o dridiau.
Ymgynghoriad:
Ymgynghorwyd â busnesau dros y ddau fis blaenorol gan
'Neath Inspired' i roi gwybod iddynt am y sefyllfa bresennol ac i benderfynu pa
welliannau ar gyfer y tymor nesaf fyddai'n fuddiol. Cynhaliwyd holiadur canfyddiad busnes i
benderfynu pa fusnesau yr hoffent fynd i'r afael â hwy a pha welliannau yr hoffent eu gweld. Bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio i
ffurfio eu cynnig pum mlynedd nesaf a fydd ar gael i bob busnes yn yr ardal BID
cyn y bleidlais.
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad gyda dros 50% o dalwyr ardoll,
ac roedd 87 o'r 125 yr ymgynghorwyd â hwy wedi dychwelyd yr holiadur. Dangosodd
y canlyniadau hynny fod 72% o blaid parhau â'r BID, nid oedd 10% o blaid ac
roedd 13% heb benderfynu. Methodd 5% â rhoi sylwadau ar y cwestiwn penodol hwnnw.
Dogfennau ategol: