Cofnodion:
Penderfyniadau
1. Cytuno ar brosiectau cynllun
gweithredu profiad ymwelwyr wedi'u blaenoriaethu erbyn 31 Mawrth 2021 fel y
nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd (paragraffau 19.1 i 19.2).
2. Bydd gweithgor swyddogion yn cael ei
ffurfio i gysylltu â phartneriaid allweddol ar gyflawni'r camau gweithredu sy'n
weddill o fewn y cynllun gweithredu profiad ymwelwyr dros gyfnod o 3-5 mlynedd.
3. Bydd swyddogion yn cynnal ymchwil
pellach i'r ffrydiau ariannu sydd ar gael ar gyfer y bwriad i ddatblygu llety i
ymwelwyr ar y safle, yn ogystal â chynnal ymarfer mynegiant o ddiddordeb gyda'r
sector preifat.
4. Bydd canfyddiadau'r ymarferion hyn
yn cael eu dwyn yn ôl i'r aelodau er mwyn gallu cytuno ar fodel cyflawni.
Rheswm
dros y penderfyniadau:
Er
mwyn galluogi'r cyngor i hwyluso'r gwaith o wella cyfleusterau a mynediad ym
Mharc Gwledig Ystâd y Gnoll, gan alluogi'r parc i barhau i ddenu cynulleidfa
leol wrth gynyddu ei gyfraniad i'r economi ymwelwyr hefyd drwy ddatblygu llety
i ymwelwyr ar y safle.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff
y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Ymgynghoriad:
Cynhaliwyd
arolwg fel rhan o'r brif broses gynllunio gyda'r gymuned leol, ymwelwyr
presennol. Cafwyd 818 o ymatebion,
adlewyrchwyd yr adborth yng nghynllun gweithredu profiad ymwelwyr fel y nodir
yn Atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd.
Cynhaliwyd
gweithdai hefyd gydag aelodau lleol, staff y parc, Cyfeillion Parc Gwledig y
Gnoll a Coed Cadw i ofyn am eu barn ar sut y dylai'r parc ddatblygu.
Dogfennau ategol: