Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad
i'r Pwyllgor a oedd yn amlinellu'r pynciau y gofynnodd Aelodau am ddiweddariad
arnynt yn dilyn eu Gweithdy Blaenraglen Waith Strydlun a Pheirianneg diweddar;
roedd y pynciau hynny'n cynnwys gwastraff ac ailgylchu, adolygu'r potensial i
ehangu'r defnydd o orchmynion diogelu mannau agored cyhoeddus (GDMACau) a
mynwentydd.
Gwastraff ac Ailgylchu
Gofynnwyd a allai'r
gwasanaeth casgliadau swmpus ailgyflwyno'r ail gerbyd a ychwanegwyd at y
gwasanaeth dros dro gan fod galw am gasgliadau swmpus ar hyn o bryd a gallai'r
cerbyd ychwanegol leihau'r broblem o dipio anghyfreithlon. Dywedodd swyddogion
fod un cerbyd wedi bod yn ddigonol o'r blaen, fodd bynnag, oherwydd bod y
gwasanaeth wedi'i atal dros dro rhwng mis Mawrth a mis Mai, roedd ôl-groniad o
alw am y gwasanaeth yr oedd angen ymdrin ag ef; roedd y pwysau ar y gwasanaeth,
yn ogystal ag ymdrin ag absenoldebau sy'n gysylltiedig â COVID-19 a'r
ôl-groniad o ran galw, yn golygu bod gan y gwasanaeth griw ychwanegol dros dro
i helpu gyda'r casgliadau swmpus. Tynnwyd sylw at y ffaith bod angen i'r
gwasanaeth, cyn penodi rhagor o staff, cael rhagor o gerbydau a pharatoi at
gyfrifoldeb cyllidebol parhaol, fod yn sicr o ffactorau fel incwm a
gwasanaethau cyflenwi; nodwyd y galw penodol hwn fel galw byr, felly ar hyn o
bryd ni fyddai angen dau gerbyd drwy gydol y flwyddyn.
Nodwyd yn yr adroddiad
a ddosbarthwyd y bu cynnydd yn y galw am y pecyn ailgylchu yn ystod y pandemig;
Gofynnodd yr Aelodau a oedd y cyngor wedi gweld cynnydd yn y ffigurau ar gyfer
ailgylchu oherwydd hyn. Nodwyd bod swm yr ailgylchu a gasglwyd ar ymyl y ffordd
yn tyfu, er enghraifft y llynedd tyfodd y gwastraff bwyd 600 tunnell; fodd
bynnag, roedd nifer o ddeunyddiau gwahanol yn effeithio ar berfformiad y
cyngor, ac roedd problemau ynghylch ailgylchu'r deunyddiau eraill hyn megis
gwastraff coed, a oedd yn effeithio ar lefelau perfformiad. Ychwanegodd
Swyddogion fod y ffigurau'n dangos cymysgedd o'r pecyn newydd yn cael ei
archebu a phecyn newydd yn lle hen becyn yn cael ei archebu.
Mewn perthynas â
Chynnyrch Hylendid Amsugnol (AHP), gofynnwyd a oedd unrhyw gysylltiadau neu
systemau ar waith gyda'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Bwrdd
Iechyd. Nodwyd bod gan y cyngor wasanaeth hylendid ar waith ar gyfer pobl â
chyflyrau meddygol yr oedd angen casglu gwastraff penodol iddynt ac nid oeddent
yn rhan o gasgliadau'r GIG; cafodd y gwasanaeth ei flaenoriaethu a'i barhau
drwy gydol y pandemig a gellid dod o hyd i ragor o fanylion am hyn ar-lein.
Cadarnhaodd Swyddogion pe bai angen cysylltu â meysydd gwasanaeth eraill
ynghylch y mater hwn y byddent yn hapus i wneud hynny.
Soniodd yr adroddiad
fod cyfweliadau PACE yn cael eu cynnal yn y Canolfannau Dinesig; Gofynnwyd i
Swyddogion egluro'r rhain yn fanylach. Eglurwyd bod cyfweliadau'r Heddlu a
Thystiolaeth Droseddol (PACE) yn cael eu defnyddio i gasglu tystiolaeth
droseddol ar gyfer achosion lle'r amheuwyd bod pobl yn cyflawni troseddau
amgylcheddol; roedd cyfleusterau wedi'u sefydlu ar gyfer y cyfweliadau hyn, ond
oherwydd COVID-19 nid oedd y cyfleusterau hyn yn ddiogel i'w defnyddio mwyach.
Dywedwyd bod y mater hwn bellach wedi'i ddatrys a bod ystafelloedd ar gael yng
Nghanolfan Ddinesig Castell-nedd y gallai Swyddogion eu trefnu i gynnal
cyfweliadau sy'n caniatáu ar gyfer cadw pellter cymdeithasol a chynnal
asesiadau risg.
Adolygiad o'r
potensial i ehangu defnydd Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus
(GDMACau)
Hysbyswyd yr Aelodau
ei bod yn bosib ehangu cwmpas GDMACau; nododd yr adroddiad y manylion gan
gynnwys yr hyn yr oeddent a'r hyn y gallent ei gwmpasu, gan gynnwys yr hyn y
byddai angen ei wneud o ran nodi blaenoriaethau ac adnoddau i'w datblygu.
Dywedwyd y byddai angen i Aelodau benderfynu sut yr hoffent ddatblygu GDMACau,
er enghraifft lle'r oeddent yn teimlo bod cyfle i ymestyn y cwmpas neu os oedd
mater penodol yr oedd angen ei ddatrys a oedd yn cael ei drafod ar hyn o bryd;
fodd bynnag, byddai angen ystyried y pwyntiau a nodir yn yr adroddiad cyn
iddynt gael eu datblygu.
Cafwyd trafodaeth am
GDMACau posib ar gyfer meysydd parcio sy'n eiddo i'r cyngor, yn enwedig y
meysydd parcio ger y traeth, gan fod Aelodau wedi derbyn nifer o gwynion gan
breswylwyr ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y meysydd parcio hyn;
gofynnwyd a fyddai'n fuddiol sefydlu GDMAC cyffredinol ar gyfer pob maes parcio
sy'n eiddo i'r cyngor ar yr un pryd. Cadarnhawyd y gellid rhoi gorchmynion ar
waith ar draws y Fwrdeistref Sirol ar gyfer mannau cyhoeddus, gan gynnwys y
rhai nad oeddent ar dir y cyngor. Dywedodd swyddogion y byddai angen ystyried y
ceisiadau'n fanwl ac y byddai'n ofynnol yn ôl y gyfraith gynnal ymgynghoriad
gan y byddai angen cyfiawnhau'r materion yr oedd Aelodau'n bwriadu mynd i'r
afael â hwy, a byddai angen i'r cyfyngiadau posib fod yn rhesymol ac yn
gymesur; byddai angen gwneud gwaith ymchwil mewn perthynas â'r hyn a oedd yn
bosib neu beidio. Soniwyd mai'r Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth (Dave
Griffiths) oedd yn gyfrifol am bob maes parcio, felly byddai angen iddo gael ei
gynnwys yn fawr yn y broses.
Mynegwyd pryderon
ynghylch y problemau posib a allai godi pe bai GDMACau yn cael eu cyflwyno ar
draws holl feysydd parcio'r cyngor, er enghraifft diogelwch staff y cyngor a
oedd ar hyn o bryd yn monitro'r GDMAC sydd ar waith yng nglan môr Aberafan;
roedd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn fater i'r heddlu, p'un a oedd GDMAC ar
waith ai peidio. Awgrymwyd y byddai Swyddogion, ar ran y Pwyllgor, yn gofyn i'r
Tîm Ymddygiad Gwrthgymdeithasol corfforaethol godi'r mater o ymddygiad
gwrthgymdeithasol mewn meysydd parcio ar draws y Fwrdeistref Sirol mewn
cyfarfod y Grŵp Partneriaeth Diogelwch Cymunedol yn y dyfodol; soniwyd bod
yr Heddlu'n mynychu'r cyfarfodydd, felly gellid cael eu hadborth ar yr hyn a
fyddai'n angenrheidiol ac yn gyfiawn yn eu barn nhw.
Gofynnwyd i Swyddogion
a fyddai gwybodaeth am y GDMACau presennol yn cael ei harddangos ar wefan y
cyngor, gan esbonio i'r cyhoedd pam eu bod ar waith ynghyd â chyngor y Swyddfa
Gartref. Nodwyd bod y GDMACau sy'n bodoli ar hyn o bryd o amgylch glan môr
Aberafan wedi'u hadnewyddu'n ddiweddar a bod proses ymgynghori lawn wedi'i
chynnal, a oedd yn cynnwys y cyhoedd; Roedd y Cabinet wedi cytuno iddynt gael
eu hymestyn am dair blynedd arall a gellid dod o hyd i'r manylion ar wefan y
cyngor.
Nodwyd yn yr adroddiad
a ddosbarthwyd nad oedd y cyfyngiadau'n berthnasol i bobl anabl fel y'i
diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 os yw'r person yn dioddef o anabledd a
fyddai'n ei atal rhag casglu baw cŵn; Tynnodd yr Aelodau sylw at y ffaith
bod llawer o bobl oedrannus ddiamddiffyn nad oeddent wedi'u cofrestru'n anabl a
oedd yn ei chael hi'n anodd casglu eu baw cŵn, a gofynnodd a oedd y mater
hwn wedi'i gynnwys yn y Ddeddf. Nodwyd bod y geiriad a gynhwyswyd yn yr
adroddiad y enghraifft gan Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr a bod y geiriad yn
berthnasol i'r cyfyngiad yr oedd ganddyn nhw ar waith; pe bai Aelodau'n
penderfynu ymchwilio i GDMACau newydd, gellid ystyried y mater hwn wrth symud
ymlaen.
Awgrymwyd y gallai
Aelodau godi unrhyw faterion neu wneud unrhyw geisiadau ynglŷn â GDMACau
yn y cymorthfeydd Gofal Stryd sydd ar y gweill.
Mynwentydd
Roedd y siart galw am
gladdu a gynhwyswyd yn yr adroddiad yn dangos gostyngiad mawr (-20) wrth
gymharu â Gorffennaf 2019 i Orffennaf 2020; Gofynnodd yr Aelodau a oedd unrhyw
reswm penodol dros hyn. Cadarnhaodd swyddogion fod lefelau claddedigaethau wedi
cynyddu a gostwng dros y blynyddoedd yn hanesyddol, ac efallai bod mwy o bobl
yn dewis amlosgi yn lle.
Dogfennau ategol: