Cofnodion:
Penderfyniadau:
1.
Bod y Cyngor yn bwrw ymlaen â
phroses dymchwel yr adeiladau fel y nodir yn yr adroddiad preifat a
ddosbarthwyd.
2.
Bod awdurdod dirprwyedig yn
cael ei roi i'r Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth i ymrwymo i gontract ar gyfer
dymchwel yr adeiladau a nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd, ac
ymgymryd â gwaith cynnal a chadw parhaus yn ôl yr angen.
3.
Bod awdurdod dirprwyedig yn
cael ei roi i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio i ymrwymo i hawddfraint am byth gyda
pherchnogion yr eiddo fel y nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd, fel a bennir gan y Pennaeth
Eiddo ac Adfywio, i hwyluso mynediad i ymgymryd â gwaith dymchwel ac i ganiatáu
mynediad ar gyfer cynnal a chadw adeiladwaith wal gynnal y briffordd yn
barhaus, ar delerau ac amodau sydd i'w cytuno gan y Pennaeth Eiddo ac Adfywio.
4.
Bod awdurdod dirprwyedig yn
cael ei roi i Bennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd i drafod ac ymrwymo i
gytundeb, mewn ymgynghoriad â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, gyda
thirfeddianwyr ac yswirwyr mewn perthynas â'r cyngor yn ymgymryd â'r gwaith
sydd ei angen i gydymffurfio â'r Hysbysiadau Dymchwel ac adennill ei gostau o'r
cwmni yswiriant.
Rheswm dros y penderfyniad:
Bwrw ymlaen â'r gwaith i ddymchwel yr eiddo a nodir
yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd, ac awdurdodi llofnodi dogfennau i
hwyluso mynediad ar gyfer ymgymryd â
gwaith o'r fath ac adennill y costau ariannol cysylltiedig, ac er mwyn cynnal a
chadw adeiladwaith wal gynnal y briffordd yn barhaus.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Ymgynghoriad:
Mae'r Aelod Ward Lleol yn cefnogi'r cynigion.