Cofnodion:
Esboniodd swyddogion y byddai'r gorwariant o £6.5
miliwn yn cael ei fonitro'n barhaus drwy gydol y flwyddyn, a'u bod yn obeithiol
y byddai'r cyngor yn cael ad-daliad pellach yn dilyn cyflwyniadau i Lywodraeth
Cymru.
Penderfyniadau:
1.
Cymeradwyo'r trosglwyddiadau
a'r symudiadau o ran arian wrth gefn a gynigir, fel y nodwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd.
2.
Bod y materion gweithredol ac
ariannol a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd yn cael eu nodi.
3.
Bod y cyngor yn parhau i
weithio gyda Llywodraeth Cymru ac yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau a
chyfarwyddiadau i ddarparu gwasanaethau yn ystod y cyfnod heriol hwn.
4.
Bod y grantiau ychwanegol a
dderbyniwyd, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn cael eu nodi.
5.
Bod y cyngor yn parhau i
geisio cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i dalu am ganlyniadau COVID-19
sef gwariant cynyddol, colli incwm, cost uwch Cymorth Treth y Cyngor a
diffygion casglu treth y cyngor sy'n cael effaith andwyol ar gyllid a
gweithgarwch y cyngor.
Rheswm dros y penderfyniad:
Monitro a diweddaru amcanestyniadau Cyllideb y
Cyngor ar gyfer 2020/21 a rhoi gwybod i'r Aelodau am y risgiau ariannol sy'n
deillio o COVID-19.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Dogfennau ategol: