Cofnodion:
Roedd yr aelodau'n
gefnogol o'r newid i'r argymhellion a roddwyd gan Swyddogion, fel a fanylir
isod.
Penderfynwyd:
1.
Rhoi awdurdod dirprwyedig i
Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio a'r Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth
a'r swyddogion hynny a ddynodwyd ganddynt i roi canllawiau Llywodraeth Cymru ar
waith ynghylch gweinyddu'r Cynllun Brys ar gyfer Bysus wrth i'r dull hwn barhau
i gefnogi'r diwydiant bysus.
2.
Rhoi awdurdod dirprwyedig i
Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio a’r Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth i
lunio Cytundebau Indemniad COVID-19 gyda Gweithredwyr Cludiant Teithwyr yn unol
â'r canllawiau a ddarparwyd gan Weinidogion Cymru, Cymorth i'r Diwydiant Bysus
COVID-19 Llywodraeth Cymru Ebrill 2020 ac unrhyw ganllawiau dilynol y gallai
Llywodraeth Cymru eu cyhoeddi.
Rheswm
dros y penderfyniadau:
Bydd y cynnig yn helpu
i gynnal gwasanaethau trafnidiaeth yn y tymor byr ac yn sicrhau y bydd
gwasanaethau'n bodoli ar ddiwedd argyfwng iechyd cyhoeddus COVID-19.
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei
roi ar waith ar unwaith.
Dogfennau ategol: