Cofnodion:
Penderfyniadau:
1.
Bod diben y prosiect yn cael ei
nodi a bod yr holl elfennau ar gyfer cyflawni, fel y nodir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd, yn cael eu cymeradwyo.
2.
Caiff awdurdod ei ddirprwyo
i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio i lofnodi cynnig grant Llywodraeth Cymru ar ôl ei
dderbyn (yn amodol ar ei delerau).
3.
Bod y dulliau caffael i
gyflawni'r cynllun yn brydlon ac yn unol â'r gyllideb, fel y nodir yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd, yn enwedig mewn perthynas â'r fethodoleg arfaethedig
i benodi gwneuthurwr ardal chwarae addas, yn cael eu cymeradwyo.
Rheswm dros y penderfyniad:
Caniatáu gwella'r cyfleusterau yng Nghanolfan
Ymwelwyr Parc Coedwig Afan i ddenu amrywiaeth ehangach o ymwelwyr. Bydd y
fethodoleg gaffael a gynigir yn hwyluso'r gwaith o gyflawni'r prosiect yn
brydlon ac yn unol â'r gyllideb.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Dogfennau ategol: