Cofnodion:
Penderfynwyd:
Cymeradwyo hysbysebu dirymiad y Gorchmynion Traffig
presennol (y bwriad i roi gorchmynion Deiliaid Bathodynnau i'r Anabl yn unig ar
waith o ddydd Llun i ddydd Sadwrn 10am i 6pm, Aros Cyfyngedig o ddydd Llun i
ddydd Sadwrn 8am i 6pm. Un awr, dim dychwelyd o fewn 2 awr ac eithrio deiliaid
hawlenni o ddydd Llun i ddydd Sadwrn 8am i 6pm. Un awr, dim dychwelyd o fewn 2
awr (gorchmynion rheoleiddio traffig) yn Herbert Street, Pontardawe (fel y
nodwyd yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau,
rhoi'r cynigion ar waith ar y safle fel y'u hysbysebwyd.
Rheswm dros y penderfyniad:
Bydd y gorchmynion rheoleiddio traffig arfaethedig
yn cynnal darpariaeth parcio ar gyfer Deiliaid Bathodynnau i'r Anabl ac yn
darparu rhywfaint o gymorth parcio i breswylwyr Herbert Street, Pontardawe.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar unwaith.
Ymgynghoriad:
Ymgymerir ag ymarfer cynghori pan gaiff y cynllun
ei hysbysebu.
Dogfennau ategol: