Newid
defnydd garej domestig presennol i Ystafell Triniaeth Harddwch a man storio, yn
21 Broad Street, Port Talbot, SA13 1EW.
Cofnodion:
(Ailymunodd y Cynghorydd R Davies â'r cyfarfod.)
Gwnaeth swyddogion gyflwyniad i'r Pwyllgor
Cynllunio ar y cais hwn (Newid defnydd y garej ddomestig bresennol i Ystafell
Driniaeth Harddwch a storfa yn 21 Broad Street, Port Talbot, SA13 1EW) fel y
nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Yn unol â’r Protocol Siarad Cyhoeddus a
gymeradwywyd gan y cyngor, roedd y siaradwr cofrestredig (yr ymgeisydd) wedi
annerch y Pwyllgor Cynllunio. Rhoddodd un o aelodau'r ward leol (aelod o'r
Pwyllgor Cynllunio, y Cynghorydd D Keogh) ei sylwadau, a thynnodd ei
wrthwynebiadau yn ôl.
PENDERFYNWYD: |
Cymeradwyo cais rhif P2020/0758 yn unol ag
argymhellion Swyddogion, ac yn amodol ar yr amodau a nodir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd. |
Dogfennau ategol: