Cofnodion:
Penderfynwyd:
Rhoi cymeradwyaeth i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio
gael awdurdod dirprwyedig i ddechrau ar y gwaith angenrheidiol o baratoi ar
gyfer pwerau Gorchmynion Prynu Gorfodol i'w defnyddio gan y cyngor mewn
perthynas â’r Hwb Trafnidiaeth arfaethedig ar gyfer Castell-nedd, ar gyfer yr
eiddo a amlinellir yn goch ar gynllun 2. Rhoddir adroddiad i'r Aelodau i'w
gymeradwyo i weld y Gorchymyn Prynu Gorfodol ar yr adeg briodol.
Rheswm dros y penderfyniad:
Galluogi'r cyngor i ailddechrau trafodaethau a
chaffaeliadau.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau.
Ymgynghoriad:
Ymgynghorwyd â Llywodraeth Cymru.