Cofnodion:
Penderfynwyd:
Cymeradwyo dyfarnu'r contract uniongyrchol ar gyfer
Ymgynghorwyr Ymgynghorol dros Ailfodelu Gorsaf Drosglwyddo Twyni Crymlyn i SLR
Consulting Ltd am gyfnod dwy flynedd y prosiect ar gyfer gwasanaethau fel y
nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd, a bod Swyddogion yn cwblhau'r
cytundeb angenrheidiol a dogfennau cysylltiedig ar gyfer Fframwaith ESPO y
sector cyhoeddus er mwyn hwyluso'r un peth.
Rheswm dros y penderfyniad:
Hwyluso datblygiad y gwaith ailfodelu y cytunwyd
arno'n flaenorol gan Aelodau a lleihau risgiau'r prosiect.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau.