Cofnodion:
Penderfynwyd:
Cyflwyno'r cais Kickstart i'r Adran Gwaith a
Phensiynau. Byddai hyn yn galluogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port
Talbot i weithredu fel Cynrychiolydd Porth, i gefnogi busnesau lleol a phobl
ifanc ddi-waith.
Rheswm dros y penderfyniad:
Galluogi'r cynllun Kickstart i gael effaith
gadarnhaol ar nifer y bobl ifanc 16 – 24 oed sy'n hawlio Credyd Cynhwysol yn y
Fwrdeistref Sirol a rhoi cyfle i fusnesau lleol greu swyddi newydd i gefnogi eu
busnes drwy'r cyfnod hwn o ansicrwydd.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn.
Dogfennau ategol: