Cofnodion:
Roedd y Cabinet yn
cefnogi'r cynnig i ymestyn y cyfnod ymgynghori am bythefnos arall, fel y
trafodwyd yn y Cyd-bwyllgor Craffu ar Addysg, Sgiliau a Diwylliant y Cabinet a
gynhaliwyd cyn y cyfarfod hwn.
Penderfyniadau:
1.
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiadau effaith mewn
perthynas â chydraddoldeb, risg, defnydd cymunedol a'r iaith Gymraeg, ac i
Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru 2015), ynghyd â'r goblygiadau
cyfreithiol, dylid cymeradwyo, yn unol ag Adran 48 o Ddeddf Safonau a
Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ymgynghori ar y cynnig i sefydlu ysgol
cyfrwng Saesneg 3 – 11 oed gyda chanolfan cymorth dysgu arbenigol, mewn
adeiladau newydd i letya disgyblion o ddalgylchoedd presennol Ysgol Gynradd Alltwen,
Ysgol Gynradd Godre'r-graig ac Ysgol Gynradd Llan-giwg y byddai pob un ohonynt
yn cau ar 31 Awst 2024. Y dyddiad
gweithredu arfaethedig fydd 1 Medi 2024.
2.
Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ar 3 Tachwedd 2020 ac yn
dod i ben ar 19 Ionawr 2021, mae hyn yn cynnwys y pythefnos ychwanegol.
3.
Bydd yr adroddiad ymgynghori yn cael ei gyhoeddi ar 26
Chwefror 2021.
Rheswm dros y penderfyniad:
Galluogi'r Awdurdod Lleol i gydymffurfio â'r
gofynion ymgynghori ffurfiol a osodir ar yr Awdurdod Lleol gan y Côd Trefniadaeth
Ysgolion.
Yn ogystal â hyn, yn amodol ar ganlyniad yr
ymgynghoriad, byddai rhoi'r cynnig ar waith yn galluogi'r Awdurdod Lleol i
hyrwyddo safonau addysgol uchel a chyflawni potensial pob plentyn. Byddai hefyd yn galluogi'r Awdurdod Lleol i
gyflawni ei ddyletswydd i sicrhau addysg effeithlon yn ei ardal.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau.
Ymgynghoriad:
1.
Cyflwynir y cynnig hwn ar gyfer trefniadaeth ysgolion dan
Raglen Strategol Gwella Ysgolion y cyngor. Mae angen ymgynghoriad ffurfiol yn
unol â Chod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru, Tachwedd 2018, sy'n nodi'r
gweithdrefnau i'w dilyn, gan gynnwys cynnwys y ddogfen ymgynghori a'r rheini y
dylid ymgynghori â hwy.
2.
Yn amodol ar gymeradwyaeth, bwriedir ymgynghori ar y
cynnig hwn rhwng 3 Tachwedd 2020 a 19 Ionawr 2021 - gweler yr amserlen
isod. Mae hyn yn caniatáu 5 wythnos
ychwanegol at y 6 wythnos statudol i ymgyngoreion ystyried y cynnig a chyflwyno
ymateb. Caiff yr ymatebion i'r ymgynghoriad eu hadrodd i'r Cabinet i'w
hystyried gan yr Aelodau ym mis Ebrill 2021.
3.
Os bydd aelodau, ar ôl ystyried yr ymatebion, yn
penderfynu bwrw ymlaen â’r cynnig, yna bydd cyfnod o 28 niwrnod yn dilyn ar
gyfer cyflwyno gwrthwynebiadau.
Cyhoeddi
dogfen ymgynghori |
3 Tachwedd
2020 |
Cyfnod i
gyflwyno ymatebion |
3 Tachwedd
2020 - 19 Ionawr 2021 |
Cyhoeddi'r
Adroddiad ar yr Ymgynghoriad |
26 Chwefror
2021 |
Dyddiad
arfaethedig ar gyfer rhoi'r cynnig ar waith |
1 Medi 2024 |
4.
Wrth sefydlu ysgol newydd
mae angen sicrhau bod digon o amser yn cael ei neilltuo i alluogi gwneud
penderfyniadau mewn modd ystyriol ac amserol, a hefyd wrth adeiladu ysgol
newydd mae angen llawer iawn o amser ar gyfer cynllunio i sicrhau bod yr
adeilad terfynol yn diwallu anghenion a dyheadau'r disgyblion, y staff a'r
gymuned a fydd yn ei defnyddio. Felly, mae angen dechrau prosesau statudol ar
hyn o bryd er mwyn sicrhau bod digon o amser ar gael i gwblhau'r holl brosesau
angenrheidiol.
5.
Bydd gwybodaeth am y
cynnig a'r ddogfen ymgynghori ar gael ar-lein ar wefan y cyngor a hefyd ar
wefannau'r ysgolion yr effeithir arnynt. Bydd copïau caled hefyd ar gael ar
gais.
6.
Bydd yr holl
ymgyngoreion, yn unol â chyfarwyddyd y Côd, yn derbyn y ddogfen Ymgynghori drwy
e-bost. Bydd sianelau cyfryngau cymdeithasol y cyngor hefyd yn cynnwys
gwybodaeth am sut i gyrchu’r ddogfen ymgynghori.
7.
Gellir cyflwyno ymatebion
i'r ymgynghoriad hefyd gan ddefnyddio'r Porth Ymgynghori ar wefan y cyngor, neu
drwy e-bostio SSIP@npt.gov.uk, neu'n ysgrifenedig.
8.
Oherwydd y sefyllfa
barhaus o ran iechyd y cyhoedd ni fydd unrhyw ddigwyddiadau ymgynghori wyneb yn
wyneb yn cael eu trefnu ar gyfer yr ymgynghoriad hwn. Gellir cyflwyno cwestiynau
ynghylch y cynnig i SSIP@npt.gov.uk.
Bwriad swyddogion yw
cyfarfod â disgyblion yn ystod y diwrnod ysgol, naill ai o bell neu'n bersonol
yn dibynnu ar farn yr ysgolion a'r rhieni, ac ar ganllawiau Iechyd Cyhoeddus
Cymru sydd ar waith.
Dogfennau ategol: