Agenda item

Rhaglen Isadeiledd Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

 

1.   Cymeradwyo Achos Busnes Isadeiledd Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'r buddsoddiad dilynol mewn Isadeiledd Digidol ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

 

2.   Dylid rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Adfywio a Datblygu Cynaliadwy i ddiwygio'r achos busnes y gallai fod ei angen i gael cymeradwyaeth mewn llywodraethu lleol, rhanbarthol a cenedlaethol.

 

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau Arfaethedig:

 

Galluogi Sir Gaerfyrddin i gyflwyno achos busnes y Prosiect Isadeiledd Digidol yn ffurfiol i Swyddfa Rheoli'r Portffolio yn unol â phroses cymeradwyo prosiect y Fargen Ddinesig.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Rhoddir y penderfyniadau ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

Ymgynghoriad:

 

Nid oes gofyniad i ymgynghori'n allanol ar yr eitem hon.

 

Dogfennau ategol: