Cofnodion:
Roedd yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn nodi'r newidiadau arfaethedig yn Adroddiad Blynyddol Drafft
Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) 2021/22; cadarnhawyd
bod yr adroddiad yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd ac y byddai'n dod i ben
ar 23 Tachwedd 2020.
Rhestrwyd y tri newid
arfaethedig fel y canlynol:
1: Mae'r IRPW yn
cynnig y dylid cynyddu cyflog sylfaenol aelodau etholedig prif gynghorau £150 y
flwyddyn, yn effeithiol o 1 Ebrill 2021. Bydd cyflogau uwch yn cynyddu ar yr un
gyfradd (1.06%) â chyflogau sylfaenol.
2: Mae'r IRPW yn
cynnig disodli'r cap misol o £403 ar gyfer ad-dalu costau gofal gyda'r
trefniadau canlynol:
i. rhaid i bob awdurdod perthnasol ddarparu ar gyfer ad-dalu'r cyfraniad tuag
at gostau angenrheidiol ar gyfer gofalu am blant ac oedolion dibynnol (a
ddarperir gan ofalwyr ffurfiol neu anffurfiol) ac ar gyfer anghenion cymorth
personol fel a ganlyn:
ii Caiff costau gofal ffurfiol (wedi'u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru)
eu had-dalu’n llawn
iii Caiff costau gofal anffurfiol (heb eu cofrestru) eu had-dalu hyd at
uchafswm cyfradd sy'n cyfateb i'r Cyflog Byw Go Iawn ar yr adeg yr eir i'r
costau
3. Mae'r IRPW yn
cynnig cynnydd o £12.00 yn y ffioedd a delir i aelodau cyfetholedig (â hawliau
pleidleisio).
Nodwyd bod Caryn
Furlow-Harris (Rheolwr Strategol ar gyfer Polisi a Gwasanaethau Democrataidd) a
Chadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn bresennol mewn cyfarfod a
hwyluswyd gan yr IRPW ar 21 Hydref 2020, lle trafodwyd yr adroddiad drafft;
ymunodd cydweithwyr o gynghorau eraill yng Nghymru â hwy gan gynnwys Cyngor
Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Abertawe a Chyngor Ceredigion. Amlygwyd bod y rhan
fwyaf o'r drafodaeth yn canolbwyntio ar y newid i'r cap misol o £403; roedd
Cadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd wedi rhoi nifer o senarios
gwahanol i'r IRPW y dywedon nhw y byddent yn eu hystyried cyn cwblhau'r
adroddiad terfynol a oedd i'w gyhoeddi ym mis Ebrill 2021.
Cafwyd trafodaeth mewn
perthynas â chanran y cynnydd yr oedd yr IRPW wedi'i gynnig i gyflog yr
Aelodau. Nodwyd bod 10 mlynedd o galedi lle nododd yr Aelodau wrth yr IRPW nad
oeddent am weld cynnydd mawr i gydnabyddiaeth ariannol Aelodau yn ystod y
cyfnod hwnnw; roedd cyfyngiadau cyflog a mesurau tebyg eraill yn cael eu rhoi
ar waith yn ehangach ar draws y sector cyhoeddus, fodd bynnag, yn ddiweddar
roedd hynny wedi newid a bu cynnydd mewn cyflogau staff addysgu, gweithwyr
llywodraeth leol, gweision sifil, Aelodau Seneddol ac ati. Amlygodd swyddogion
eu bod yn synnu nad oedd yr IRPW yn manteisio ar y cyfle yn yr adroddiad i
ddechrau mynd i'r afael â'r bwlch sylweddol sydd bellach wedi datblygu rhwng y
gyfradd meincnod a'r hyn yr oedd Aelodau'n cael eu talu mewn gwirionedd; byddai
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, Karen Jones, yn codi'r pwyntiau hyn yn
ffurfiol gyda'r IRPW.
Mewn perthynas â'r
trefniad dwy haen ynghylch costau gofal, nid oedd swyddogion yn fodlon bod yr
IRPW wedi rhoi esboniad addas o'r rhesymu y tu ôl i drefniad dwy haen ac nad
oeddent mewn gwirionedd yn egluro’r rhesymau pam nad oedd Aelodau'n hawlio'r
hyn yr oedd ganddynt hawl iddo; Cadarnhaodd swyddogion yr hoffent weld rhagor o
wybodaeth gan yr IRPW cyn i'r trefniadau gael eu cwblhau.
Dywedodd yr Aelodau y
dylai fod dull tecach ar waith ar gyfer codiadau cyflog/lwfansau gan fod y
rheini a oedd yn gymwys i gael cyflogau uwch ar hyn o bryd yn derbyn tipyn yn
fwy na'r rheini a oedd ar gyflogau sylfaenol oherwydd bod y codiadau'n cael eu
cyfrifo yn ôl canrannau. Soniodd swyddogion fod yr IRPW, tua ddwy flynedd yn
ôl, yn bwriadu datblygu model gwahanol ar gyfer cydnabyddiaeth ariannol gan eu
bod yn derbyn nad oedd y model presennol yn addas at diben; ers cyflwyno'r
model, bu llawer o ddatblygiadau er enghraifft, Cydbwyllgorau Craffu, ac wrth i
ddiwygiadau llywodraeth leol fynd yn eu blaen bydd llawer mwy o gydweithio sy'n
sicrhau cyfres newydd o ddyletswyddau, cyfrifoldebau ac ymrwymiad gan Aelodau.
Cadarnhawyd, pan gysylltodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a'r IRPW mewn
perthynas â'r pryderon, y byddai'r pwynt ynghylch y ffaith nad yw’r cynnydd yn
adlewyrchu faint o waith a chyfrifoldebau yr oedd yr Aelodau'n ymgymryd ag ef
yn cael ei godi. Awgrymwyd y gallai'r IRPW gynnal cyfnod ymgynghori yn y lle
cyntaf, gyda thrafodaeth ynghylch sut beth bydd y model yn y dyfodol.
Trafododd y pwyllgor
bwysigrwydd cydraddoldeb a sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gyflwyno’i hun fel
ymgeisydd i fod yn Aelod Etholedig; helpodd y lwfansau rai pobl i allu gwneud
hyn e.e. y rheini y byddai angen iddynt dalu am ofal plant. Amlygwyd na ddylai
fod unrhyw stigma gan y cyfryngau nac ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol mewn
perthynas ag Aelodau'n hawlio'r lwfansau yr oedd ganddynt hawl iddynt; roedd problemau
o hyd ynghylch amgyffrediad y cyhoedd o'r hyn y mae Aelodau Etholedig yn cael
eu talu. Gofynnwyd a allai'r cyngor gyfathrebu neu gynnwys unrhyw wybodaeth
ynghylch y mater hwn gan ei fod wedi'i reoli'n wael yn flaenorol a gafodd
effaith ar y rheini mewn llywodraeth leol ac o ganlyniad ni wnaeth rai ohonynt
hawlio’u harian.
O ran lwfans gofal yr
Aelodau, nodwyd bod yr Aelodau'n amharod o hyd i hawlio'r lwfansau er gwaethaf
y gwaith a gwblhawyd ar draws Cymru a'r anogaeth yr oedd y cyngor wedi'i darparu;
roedd hefyd yn amlwg gyda lwfansau teithio, gan mai ychydig iawn o Aelodau a
hawliodd am deithio oni bai eu bod yn mynd i gostau sylweddol oherwydd y
teithiau hir o'r canolfannau dinesig. Amlygwyd bod problem ddiwylliannol gyda'r
ffordd y mae'r cyhoedd yn amgyffred y taliadau hyn; roedd yn rhaid i'r cyngor
fod yn barod i gefnogi Aelodau a'u hannog i hawlio'r hawliadau. Cadarnhawyd y
byddai Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn ysgrifennu ymateb i'r IRPW
ynghylch y pryderon a fynegwyd gan Aelodau ac yn darparu copi i Aelodau'r
Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Ychwanegwyd bod lle hefyd i aelodau unigol
a/neu grwpiau gwleidyddol gyflwyno sylwadau i'r panel yn ogystal; gofynnwyd a
oedd modd rhannu'r ddolen i allu gwneud hyn â'r Aelodau.
PENDERFYNWYD:1. Bod yr Aelodau'n nodi'r Adroddiad Blynyddol
drafft a'r penderfyniadau arfaethedig ar gyfer 2021/22.
2. Bod yr
Aelodau'n cytuno i ymateb byr i'r ymgynghoriad a bod Pennaeth y Gwasanaethau
Democrataidd yn paratoi ymateb y cyngor ar ran y pwyllgor gan gynnwys:
(i) Gofyn am eglurder
a thryloywder o ran y manylion i helpu i gynorthwyo /cefnogi aelodau
(ii) Cyfleu
pryderon/sylwadau'r Aelodau mewn perthynas â'r cynnydd canrannol i'r IRPW
Dogfennau ategol: