Cofnodion:
Derbyniodd yr Aelodau
Flaenraglen Waith y Pwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer 2020/21.
Mynegwyd pryderon
ynghylch y ffaith nad oedd pedwar o'r pum Pwyllgor Craffu wedi'u hailsefydlu a
chyfarfod i graffu ar eitemau o fewn eu cylchoedd gwaith eto; Ar hyn o bryd,
roedd Pwyllgor Craffu'r Cabinet yn craffu ar eitemau o'r holl gyfarwyddiaethau
o fewn y cyngor.
Dywedodd swyddogion
fod cynghorau ledled Cymru wedi derbyn llythyr gan y Gweinidog yn gofyn
cwestiynau mewn perthynas â threfniadau craffu ac roedd ymateb i'r llythyr
hwnnw yn gyfle i ystyried yr hyn yr oedd Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi'i
wneud ers dechrau COVID-19 a oedd yn cynnwys:
· Sefydlu fersiwn electronig yn gyflym o'r weithdrefn Cam Gweithredu Brys,
pan nad oedd yn bosib trefnu cyfarfodydd. Roedd Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion
y Pwyllgorau Craffu wedi bod yn rhan o'r weithdrefn hon o'r cychwyn cyntaf;
· Drwy gydol y pandemig roedd y cyngor wedi ceisio rhoi'r wybodaeth
ddiweddaraf i'r Aelodau am faterion drwy anfon bwletinau a thrwy recordio
sesiynau briffio gan yr Arweinydd ac Arweinwyr gwrthbleidiau;
· Ym mis Mehefin/mis Gorffennaf, Castell-nedd Port Talbot oedd yr awdurdod
lleol cyntaf yng Nghymru i gynnal cyfarfod cyngor llawn. Hefyd yn ystod y
cyfnod hwn, cyn toriad mis Awst, cafodd pob un o'r Pwyllgorau Craffu gyfarfod i
hysbysu'r Aelodau o’r hyn yr oedd y cyngor wedi'i wneud hyd yn hyn yn ystod y
pandemig ac amlinellodd y fframwaith yn y dyfodol;
· Trefnwyd Pwyllgorau Craffu ar ffurf gweithdy, ar gyfer mis Medi ymlaen, fel
y gallai'r pwyllgorau unigol nodi pa feysydd yr hoffent ganolbwyntio arnynt;
cymerodd amser sylweddol i drefnu'r gweithdai hyn gan nad oedd gan swyddogion y
Gwasanaethau Democrataidd gylch o gyfarfodydd i weithio o'u cwmpas.
Amlygwyd y byddai’r
Pwyllgorau Craffu yn y dyfodol yn cyfarfod mewn modd ychydig yn wahanol
oherwydd yr amgylchiadau presennol; fodd bynnag, roedd cylch o gyfarfodydd
wedi'i sefydlu a threfnwyd y byddai pob Pwyllgor Craffu yn cael cyfarfod cyn y
Nadolig, yn ogystal â threfnu cyfarfodydd ychwanegol ar gyfer y flwyddyn
newydd. Cadarnhaodd swyddogion fod pob Pwyllgor Craffu wedi nodi'r pynciau yr
hoffent ganolbwyntio arnynt, felly bydd yr agendâu ar gyfer y cyfarfodydd
hynny'n cynnwys yr hyn yr oedd y pwyllgor ei hun wedi'i benderfynu; roedd hefyd
yn bwysig nodi y byddai'r Blaenraglen Waith a oedd yn manylu ar y
penderfyniadau yr oedd disgwyl i'r Cabinet eu gwneud yn cael ei ystyried gan y
Pwyllgorau Craffu a bod y cyfrifoldeb ar y pwyllgor i benderfynu beth yr
oeddent am ei ystyried o ran craffu cyn penderfynu. Ychwanegodd swyddogion na
fyddai Byrddau'r Cabinet yn cael eu hailsefydlu eto oherwydd llwythi gwaith ac
adnoddau.
Rhoddwyd lefel arall o
sicrwydd i'r Aelodau, sef pan oedd swyddogion wedi nodi bod penderfyniadau mawr
i'w gwneud ar gyfer rhai gwasanaethau, y darparwyd cyngor y gellid ymdrin â'r
penderfyniadau penodol hyn o fewn Cyd-bwyllgor rhwng Pwyllgor Craffu'r Cabinet
a'r Pwyllgor Craffu perthnasol arall i sicrhau nad oedd yr Aelodau Craffu'n
cael eu difreinio. Amlygodd swyddogion eu bod yn ceisio sicrhau'r cydbwysedd
cywir gyda chyfarfodydd, gan ystyried y pwysau presennol ar wasanaethau a sut
roedd yr amgylchiadau presennol wedi effeithio ar niferoedd staff. Soniwyd y
gellid cynnal adolygiad o'r model presennol yn y flwyddyn newydd, gan ystyried
adborth yr Aelodau.
Darparodd Pennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol gyd-destun i'r Aelodau ynghylch yr eitem agenda yn y
dyfodol ar y Blaenraglen Waith 'Sefydlu Cylch Gorchwyl ar gyfer Adolygu'r
Cyfansoddiad'. Dywedwyd mai dyletswydd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol fel
Swyddog Monitro oedd sicrhau bod y cyfansoddiad yn gyfredol a'i fod yn cynnwys
yr holl sail gyfreithiol ar gyfer unrhyw benderfyniadau a wnaed o fewn y
cyngor; dros y misoedd nesaf, rhagwelwyd y byddai rhai newidiadau i Fil
Llywodraeth Leol ac Etholiadau Cymru y byddai angen eu hadlewyrchu yn y
cyfansoddiad. Hysbyswyd yr Aelodau bod y cyfansoddiad wedi'i ddiweddaru dros y
misoedd diwethaf i adlewyrchu darpariaethau newydd, ac ym mis Rhagfyr byddai
swyddogion yn gofyn i'r cyngor llawn osod tasg i Bwyllgor y Gwasanaethau
Democrataidd sef sefydlu Grŵp Tasg a Gorffen i gwblhau adolygiad llawn o'r
cyfansoddiad, a fyddai'n cynnwys ei wneud yn fwy hygyrch i'r cyhoedd. Gofynnwyd
i'r Aelodau gysylltu â swyddogion os oeddent yn dymuno bod yn rhan o'r
Grŵp Tasg a Gorffen.
PENDERFYNWYD: Nodi'r
Blaenraglen Waith.
Dogfennau ategol: