Cofnodion:
Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2020 fel cofnod cywir.
Yna nododd yr Aelodau y
canlynol:
·
Eglurodd swyddogion bryderon blaenorol yr Aelodau
ynghylch GDPR o ran Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW)
a'r lwfans gofalwyr sy'n cael ei hawlio; nodwyd er y byddai'n cael ei gadarnhau
yn y cofnod, pe bai rhywun yn hawlio lwfans gofalwyr, dywedwyd bod y person yn
derbyn y swm penodol hwnnw, ac na fyddai'r manylion a'r rheswm pam ei fod yn ei
hawlio’n cael ei gyhoeddi.
·
Rhoddodd yr ychydig Aelodau a oedd yn treialu Office 365
adborth cadarnhaol ar y system ac amlygwyd ei bod yn gweithio'n dda iawn ac yn
ddarn hanfodol o gyfarpar i Aelodau ei gael ar eu ipads. Nodwyd bod Aelodau
eraill wedi gofyn a ellid cyflwyno Office 365 i'r holl Aelodau gan fod y pecyn
bellach wedi'i dreialu, a fyddai'n ddefnyddiol iawn yn enwedig yn ystod
amgylchiadau presennol pandemig COVID-19; yr unig fater a godwyd oedd y gallai
fod angen hyfforddiant ar rai Aelodau ar sut i ddefnyddio'r pecyn. Cadarnhaodd
swyddogion fod Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion y Fforwm Craffu wedi trafod
cefnogaeth TG i'r Aelodau a'u bod wedi cytuno y byddai arolwg yn cael ei gynnal
mewn perthynas â pha gyfarpar oedd gan bob Aelod ac a oeddent yn cael unrhyw
anawsterau wrth ddefnyddio'r cyfarpar, ac o hyn byddai'n ymchwilio i gyflwyno
Office 365. Soniwyd ei fod wedi'i godi gyda Dave Giles (Rheolwr y Gwasanaeth
TGCh) a byddai'r broses o wneud hyn yn dechrau yn yr ychydig wythnosau nesaf.
Awgrymwyd y dylid codi'r mater o ddiweddariad o ran TG yr Aelodau yng
nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ac efallai bydd y
Grŵp Cyfeirio TG eisiau ystyried a fyddai angen cynnal cyfarfod rhwng nawr
a'r cyfarfod hwnnw.
Dogfennau ategol: