Cofnodion:
Rhoddodd Arweinydd y Cyngor yr wybodaeth
ddiweddaraf i'r aelodau am y nifer cynyddol o achosion COVID-19 yn yr ardal. O ganlyniad, roedd cyfyngiadau lleol wedi'u
gosod ar Gastell-nedd Port Talbot gan Lywodraeth Cymru i geisio atal nifer yr
heintiau. Nodwyd pe bai nifer yr
heintiau'n parhau i gynyddu fod Llywodraeth Cymru'n ystyried cyfyngiadau
ychwanegol. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd
Aelodau'n parhau i atgyfnerthu'r canllawiau, golchi dwylo, cadw pellter
cymdeithasol, gwisgo mygydau pan fo angen a hunanynysu os oeddent yn profi
symptomau yn eu cymunedau.
Yn dilyn hyn, gofynnodd yr Aelodau a ellid rhoi'r
wybodaeth ddiweddaraf iddynt am unrhyw glystyrau o achosion COVID-19 sy'n
datblygu yn eu wardiau ac a ellid rhannu unrhyw ddata neu fapiau ag
Aelodau. Esboniwyd bod y data a
ddefnyddiwyd wedi'i gynhyrchu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a'i fod
yn newid mor gyflym y byddai wedi dyddio erbyn iddo gael ei rannu. Byddai swyddogion, lle bo modd, yn ceisio
rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.