Agenda item

Trefniadau Pleidleisio ar gyfer Penodi Swyddogion y penderfynwyd arnynt yn ystod Cyfarfodydd Rhithwir y Cyngor

Adroddiad ar y Cyd y Pennaeth Adnoddau Dynol a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol

Cofnodion:

Derbyniodd y cyngor wybodaeth am y cynnig i gyflwyno proses ddigidol i alluogi pob aelod i fwrw pleidlais dros yr ymgeisydd sydd orau ganddo yn y prosesau penodi a bennir gan gyfarfod o'r cyngor llawn ac mewn amgylchiadau lle mae'r cyngor yn cyfarfod yn rhithwir fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

PENDERFYNWYD:

1.   Cymeradwyo cyflwyno proses ddigidol i alluogi pob aelod i fwrw pleidlais dros yr ymgeisydd dewisol mewn prosesau penodi a bennir gan gyfarfod o'r cyngor llawn ac mewn amgylchiadau lle mae'r cyngor yn cyfarfod yn rhithwir ar-lein i wneud hynny.

 

2.   Awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol i newid Rheolau Gweithdrefnau'r Cyngor a nodir yng Nghyfansoddiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot drwy ddileu cymal 14.7 a rhoi'r canlynol yn ei le (tanlinellir y diwygiad):

 

"Os oes mwy na dau berson wedi'u henwebu i lenwi unrhyw swydd ac nid oes mwyafrif clir o bleidleisiau o blaid un person, yna bydd enw'r person sydd â'r nifer lleiaf o bleidleisiau'n cael ei dynnu oddi ar y rhestr a phleidlais newydd yn cael ei gymryd.  Bydd y broses yn parhau hyd nes y bydd mwyafrif y pleidleisiau ar gyfer un person.

 

Pan fydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal o bell, bydd y broses yn cael ei chynnal drwy swyddogaeth bleidleisio a fabwysiadwyd gan y cyngor i alluogi Aelodau i gofrestru'r ymgeisydd dewisol.  Bydd canlyniadau'r holiadur yn cael eu coladu mewn cronfa ddata y gall Swyddog Gwasanaethau Democrataidd, Pennaeth Adnoddau Dynol a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol ei defnyddio.

 

Mewn amgylchiadau lle mae materion technegol yn golygu na all Aelod gael mynediad at y ddolen i'r holiadur, gofynnir i'r Aelod e-bostio'r Swyddog Gwasanaethau Democrataidd i gadarnhau hyn a chadarnhau ei bleidlais.  Caiff yr e-bost ei gadw'n gyfrinachol ynghyd â gwybodaeth y gronfa ddata at ddibenion llywodraethu'n unig.

 

 

 

Dogfennau ategol: