Agenda item

Adroddiad Blynyddol Cynllun Corfforaethol 2019/2020 - wedi'i gyflwyno i'w gymeradwyo

Adroddiad gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol a’r Prif Swyddog Digidol

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yr adroddiad uchod, a gymeradwywyd i'r cyngor gan y Cabinet yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Medi 2020.

 

PENDERFYNWYD:

1.   Cymeradwyo'r dogfennau canlynol:

 

·        Adroddiad Blynyddol Cynllun Corfforaethol 2019-22 (adroddiad cynnydd llawn);

·        Adroddiad Blynyddol Cynllun Corfforaethol 2019-22 (adroddiad cryno)

·        Dangosyddion Perfformiad Allweddol Cynllun Corfforaethol

           2019 – 20.

 

2.   Bod y tri amcan lles a nodir yn y Cynllun Corfforaethol presennol yn parhau'n berthnasol gan y cytunwyd ar yr amcanion ym mis Medi 2017 ac fe'u hadolygwyd ym mis Mawrth 2020.

 

 

 

Dogfennau ategol: