Cofnodion:
Roedd yn ofid mawr i'r Maer hysbysu'r cyngor am
farwolaeth ddiweddar cyn-Faer Cyngor Bwrdeistref Port Talbot, y Cynghorydd Val
Kingdom.
Fel arwydd o barch, cafwyd munud o ddistawrwydd yng
nghyfarfod y cyngor
Roedd y Maer yn falch iawn o gyhoeddi'r derbynwyr
anrhydeddau canlynol yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2020:
Cafodd Joy Smith, Rheolwr Diogelwch Ffyrdd a
Pherfformiad Busnes, CBSCNPT, ei gwneud yn Aelod o Urdd yr Ymerodraeth
Brydeinig am wasanaethau tuag at ddiogelwch ffyrdd.
Derbyniodd Hilary Dover, Cyfarwyddwr
Gwasanaeth Gwasanaethau Sylfaenol a
Chymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Fedal Urdd yr Ymerodraeth
Brydeinig am wasanaethau i'r GIG yn ystod COVID-19.
Y derbynwyr eraill a dderbyniodd Fedal Urdd yr
Ymerodraeth Brydeinig oedd:
Julie Simonson, Cyfarwyddwr Cangen Gymunedol,
Santander am wasanaethau i'r sector ariannol a chymuned Castell-nedd.
Christopher Singletary, am wasanaethau i
gyn-filwyr, eu teuluoedd a lluoedd arfog Port Talbot.