Cofnodion:
Dywedodd yr Arweinydd wrth yr Aelodau mai hwn oedd
cyfarfod olaf y Cyngor y byddai Mrs Annette Manchipp, Uwch-Swyddog y
Gwasanaethau Democrataidd, yn ei fynychu oherwydd ei hymddeoliad arfaethedig.
Talodd yr Arweinydd deyrnged iddi hi a’i chyfraniad i'r broses ddemocrataidd,
ers 1984, yn yr awdurdod lleol hwn ac awdurdodau lleol blaenorol a dymunodd
ymddeoliad hir a hapus iddi. Cefnogwyd hyn gan yr Aelodau. Ymatebodd Mrs
Manchipp a dymunodd yn dda i'r awdurdod, yr aelodau a'r swyddogion ar gyfer y
dyfodol.