·
Dewis eitemau priodol o Is-adran y Cabinet (Cyllid) Agenda'r pwyllgor ar
gyfer craffu cyn penderfynu (Cyllid y Cabinet Adroddiadau is-bwyllgor wedi'u
hamgáu ar gyfer Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Rhoddwyd cyflwyniad byr i'r
pwyllgor a oedd yn rhoi trosolwg strategol o brosiect isadeiledd digidol Bargen
Ddinesig Bae Abertawe; roedd y rhaglen waith benodol hon a'r buddsoddiad
arfaethedig yn ymwneud â chysylltedd y rhanbarth, gan gynnwys Castell-nedd Port
Talbot. Eglurwyd y byddai'r buddsoddiad yn cynnwys cysylltedd sefydlog ffibr llawn,
yr isadeiledd cysylltiedig i'w gefnogi a chysylltedd ffonau symudol, 4G a 5G yn
bennaf, a rhwydweithiau di-wifr datblygedig y ‘Rhyngrwyd Pethau'.
Esboniodd swyddogion ei fod yn
rhaglen gwerth £55 miliwn dros 5 mlynedd; Ariannwyd £25 miliwn o'r cyfanswm gan
y Fargen Ddinesig a byddai'r £30 miliwn arall yn cael ei ariannu gan y sectorau
preifat a chyhoeddus. Tynnwyd sylw at y ffaith nad cyfraniadau lleol oedd
cyfraniadau'r sector cyhoeddus, yn hytrach amcangyfrifwyd eu bod yn dod o
gystadlaethau cenedlaethol a ffrydiau ariannu. Mewn perthynas â chyfraniadau'r
sector preifat, nodwyd y byddai'n cael ei ysgogi fel rhan o'r ymarferion
caffael amrywiol a gynhaliwyd; roedd y sector preifat yn geidwadol o ran y
targedau ariannol a dywedodd Swyddogion nad oeddent yn rhagweld unrhyw
broblemau o ran cyrraedd y targedau hynny.
Roedd y cyflwyniad yn nodi'r
modd y caiff y prosiect arfaethedig ei gyflawni ar draws tair ffrwd waith a
oedd yn cynnwys lleoedd gwledig, di-wifr a lleoedd cysylltiedig y genhedlaeth
nesaf; byddai'r prosiect yn darparu cysylltedd mewn gwahanol ffurfiau a
lleoliadau ar draws y tair ffrwd waith hynny:
·
Gwledig - buddsoddi mewn cysylltedd gwledig, ac yn y pen
draw mewn nifer o ymyriadau i gefnogi'r cymunedau mwyaf gwledig a chymunedau
sydd wedi'u gwasanaethu'n wael e.e. ysgogi galw, hyrwyddo ffrydiau ariannu
presennol i bobl fanteisio arnynt a chefnogi preswylwyr, cymunedau a busnesau
·
Di-wifr y genhedlaeth nesaf – cyllid sbarduno i ddenu
signalau 5G a 4G+ yn y dyfodol ar gyfer rhai ardaloedd lle bo hynny’n gall, a
pheth rhwydweithiau di-wifr datblygedig i hwyluso pob math o achosion defnydd y
byddai'r rhanbarth yn ceisio’u hariannu e.e. ceir di-yrrwr a gweithgynhyrchu
clyfar. Mae amrywiaeth y rhanbarth yn cynnig cyfleoedd niferus i brofi a darparu'r
defnydd o 5G ar gyfer y dyfodol
·
Lleoedd cysylltiedig – buddsoddi mewn band eang ffibr
llawn a rhwydweithiau ffibr llawn ar draws rhannau trefol y rhanbarth, yn
enwedig Port Talbot, Castell-nedd, Abertawe a Llanelli
Nododd yr Aelodau’r prif
resymau pam yr oedd y prosiect yn cael ei gynnal a oedd wedi'i rannu'n
broblemau i'w datrys a chyfleoedd i fanteisio arnynt, a sut byddai cydweithio â
Llywodraethau Cymru a'r DU, diwydiannau telathrebu a phartneriaid a
rhanddeiliaid rhanbarthol yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Roedd rhai o'r problemau i'w
datrys yn cynnwys:
·
Signalau ffibr llawn cyfyngedig iawn (dim ond 2.6% o
fangreoedd, busnesau a chartrefi Castell-nedd Port Talbot oedd â band eang
ffibr llawn); bwriedir defnyddio cyllid y prosiectau i gael cymaint o gysylltedd
â phosib
·
22,000 o gartrefi ar draws y rhanbarth a oedd yn cael
trafferth cael hyd yn oed ansawdd 30MB yr eiliad o ddarpariaeth rhyngrwyd;
bwriedir lleihau'r nifer hwn yn sylweddol
·
Diffyg cystadleuaeth cyflenwyr, sy'n un o'r rhesymau pam
nad oedd y rhanbarth wedi'i wasanaethu'n dda o ran cysylltedd; bwriedir newid
hyn drwy weithio gyda diwydiant a defnyddio'r arian i ddenu cystadleuaeth i
sicrhau y gellid adeiladu cysylltedd dibynadwy, cynaliadwy a chyflym
Roedd rhai o'r cyfleoedd i
fanteisio arnynt yn cynnwys:
·
Arloesedd a ffrydiau busnes newydd; mae'r farchnad
ddigidol a darpariaeth y gwasanaethau digidol yn cynnig potensial enfawr
·
Cynhwysiant cymdeithasol a chydlyniant; mae hyn yn
cysylltu â chynnal cymunedau gan ei fod yn helpu i ddod â gwaith i bobl a
chaniatáu i bobl gysylltu â gwaith
·
Diogelu isadeiledd y rhanbarthau ar gyfer y dyfodol;
roedd y buddsoddiad ar gyfer y dyfodol yn ogystal â heddiw
Soniwyd bod pandemig presennol
COVID-19 wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cysylltedd, gan fod yn rhaid i lawer o
bobl weithio gartref a/neu redeg eu busnesau ar-lein.
Dangosodd swyddogion ddiagram
a oedd yn dangos sut caiff y rhaglen ei strwythuro a'i chyflwyno; tynnwyd sylw
at y ffaith bod bwrdd y prosiect isadeiledd digidol wedi llywio Swyddfa Rheoli
Rhaglenni’r isadeiledd digidol. Nodwyd bod aelodau'r bwrdd yn bobl a oedd yn
canolbwyntio ar gyfeiriad strategol economi'r rhanbarth a'i gydraddoldeb
cymdeithasol a'i les cymdeithasol.
Cynhaliwyd trafodaeth mewn
perthynas â chyflwyniad a ddarparwyd yn flaenorol i'r aelodau; cynnig ar gyfer
cebl cyflym iawn yn ne Cymru a gyflwynwyd gan Syr Terry Matthews a'i
bartneriaid ar y pryd. Dywedodd swyddogion mai dyma oedd sail y Fargen Ddinesig
yn flaenorol, ond ei fod wedi newid cyfeiriad ers hynny.
Gofynnodd yr aelodau a allai
Swyddogion egluro lle'r oedd lleoedd cysylltiedig Castell-nedd Port Talbot.
Dywedwyd y byddai Port Talbot a Chastell-nedd yn ogystal ag Abertawe a Llanelli
yn cael eu targedu o ran y rhwydwaith cwndidau a ffibr; y bwriad oedd cynnal
caffaeliad i gysylltu asedau'r sector cyhoeddus a darparu cyfle ar gyfer
mewnfuddsoddi sylweddol i gysylltu cynifer o adeiladau a chymunedau ledled
Castell-nedd Port Talbot â phosibl. Ychwanegwyd nad oedd rhestr benodol o
fusnesau a/neu gymunedau a fyddai'n cael eu targedu ar hyn o bryd; Byddai
swyddogion yn gallu dechrau deall yn union pa gymunedau oedd o fewn y cwmpas ac
y byddent yn debygol o gael eu cynnwys, ar ôl i'r profion marchnata a chaffael
ddechrau.
Yn dilyn cwestiwn ynglŷn
â sut i gael 5G, nodwyd, er mwyn cael gwasanaeth 5G da, yn yr un ardal ag y
gallech gael 4G, fod angen dosbarthiad ffibr da iawn.
O ran y ffrwd waith wledig,
gofynnwyd a fyddai'r rhanbarth cyfan yn cael ei gynnwys neu a fyddai rhai
rhannau o'r rhanbarth yn cael eu targedu; ac os yr olaf, a oedd rhannau penodol
o Gastell-nedd Port Talbot, er enghraifft cymoedd neu ganolfannau penodol, yr
oeddent am ganolbwyntio arnynt. Cadarnhaodd swyddogion fod ganddynt wybodaeth a
data manwl o ran pwy sydd wedi'u cysylltu a'r hyn y gallent ddisgwyl ei dderbyn ar hyn o bryd; y
flaenoriaeth bresennol oedd targedu'r rheini a oedd yn derbyn y gwasanaeth
gwaethaf o ran cysylltedd, yn yr ardaloedd gwledig. Soniwyd na fyddai'r
gyllideb bresennol yn ddigon i gysylltu pawb, ond roedd buddsoddiad yn parhau
gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, yn ogystal â chan y Fargen Ddinesig
fel y soniwyd amdani eisoes; codwyd pwysigrwydd gweithio gyda phartneriaid i
sicrhau na chaiff ymdrechion eu dyblu. Dywedwyd y gellid rhannu data a mapiau a
oedd yn tynnu sylw at yr ardaloedd a wasanaethir waethaf gyda'r aelodau.
Cododd yr Aelodau bwysigrwydd
sicrhau bod gan prosiect y Fargen Ddinesig synergedd â strategaethau perthnasol
eraill, yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, yn enwedig mewn perthynas â
chysylltedd yn ardaloedd y cymoedd; byddai hyn yn ychwanegu gwerth ac yn
sicrhau bod y gwaith sy'n cael ei wneud o fewn y strategaethau yn cydweddu’n
effeithiol. Soniwyd bod llawer o swyddogion a oedd yn ymwneud â strategaethau eraill,
e.e. tasglu'r cymoedd, yn rhan o brosiect y Fargen Ddinesig; roedd y gwaith o
bob maes megis iechyd, addysg ac yn enwedig twf economaidd yn seiliedig ar
gysylltedd. Hysbyswyd yr Aelodau bod rhai ffrydiau cyllido eisoes ar gael i
gymunedau; Roedd swyddogion yn bwriadu helpu'r rhanbarth i wella o ran cefnogi
cymunedau a manteisio ar y cyfleoedd ariannu a oedd eisoes yn bodoli ar gyfer
cysylltedd, a helpu cymunedau i ddefnyddio cyllid a chyflawni prosiectau
cymunedol.
Tynnwyd sylw at y ffaith bod
angen cyfleu gwybodaeth dda a dibynadwy am gyflwyno 5G tuag allan er mwyn atal
pryderon pellach am 5G; cadarnhawyd bod pedwerydd ffrwd waith lle byddai
Swyddogion sy'n cynrychioli'r rhanbarth yn helpu awdurdodau lleol i ddelio â'r
mathau hyn o faterion gan eu bod yn gyfarwydd iawn ag ymateb i ymholiadau 5G a
phryderon iechyd.
Trafododd y pwyllgor agweddau
ar y ffrwd waith wledig, a nododd fod dulliau cymysg o ymdrin â'r ffrydiau
gwaith penodol oherwydd amrywiaeth y rhanbarth. Dywedwyd bod Swyddfeydd yn
cydnabod pwysigrwydd ardaloedd gwledig, y cymunedau nad ydynt yn cael eu
gwasanaethu’n ddigonol, y busnesau sy'n gweithredu a'r bobl a oedd bellach yn
gweithio gartref yn y cymunedau hynny, sef y rheswm y tu ôl i'r dull cyfunol o
ymdrin â'r ffrydiau gwaith a dosbarthiad buddsoddiad ar draws y ffrydiau gwaith
oedd yn dibynnu ar hynny. Ychwanegwyd, yng ngoleuni pandemig COVID-19, fod
gwelliannau wedi'u gwneud yn ddiweddar i'r achos busnes i gryfhau'r ddadl dros
gydraddoldeb cymdeithasol a'r hyn sy'n deg ac yn iawn i gymunedau, yn enwedig
mewn ardaloedd gwledig.
Yn dilyn y broses graffu,
roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.