Cofnodion:
Rhoddodd Arweinydd y Cyngor yr wybodaeth
ddiweddaraf i'r Aelodau am y nifer cynyddol o achosion COVID-19 yn ne
Cymru. Nodwyd nad oedd Castell-nedd Port
Talbot ar hyn o bryd yn un o ardaloedd pryder yr awdurdodau lleol, ond gyda
rhai awdurdodau lleol cyfagos dan gyfyngiadau lleol roedd yn debygol iawn y
byddai’r Fwrdeistref Sirol hon yn cael ei heffeithio hefyd. O ganlyniad, gall
staff gael eu secondio unwaith eto i wahanol feysydd gwaith, er enghraifft y
gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu. Gofynnwyd i'r aelodau felly i
atgyfnerthu'r rhagofalon diogelwch sydd eisoes mewn grym a hefyd reoli
disgwyliadau preswylwyr o ran lefel rhai gwasanaethau nad ydynt yn
hanfodol/brys. Roedd yn bwysig pwysleisio bod y DU yn dal i fod yng ngham
ymateb y pandemig.
Roedd problemau mewn perthynas â’r gwasanaeth
Profi, Olrhain, Diogelu, yn enwedig yr amser a gymerwyd i gael prawf a hefyd i
gael y canlyniadau.
Roedd yr aelodau'n cefnogi'n llawn yr angen i reoli
disgwyliadau preswylwyr yn y dyfodol ac atgyfnerthu'r rhagofalon a'r
cyfyngiadau diogelwch sydd ar waith.