Cais
cynllunio amlinellol (gan gynnwys mynediad) ar gyfer cyrchfan antur yn cynnwys
600 o gabanau gwyliau/fflatiau, gwesty â 100 gwely a sba cysylltiedig, plaza
canolog yn cynnwys bwytai, gweithgareddau hamdden a siopau, gweithgareddau
antur ac adeiladau cysylltiedig (gan gynnwys chwaraeon eithafol, llethrau
sgïo/alpaidd, gweithgareddau yn y goedwig a Trax & Trail), bwytai ac
adeiladau gweinyddol a chynnal a chadw cysylltiedig a pharcio ar gyfer oddeutu
850 o geir, yn ogystal â gweithrediadau tirlunio, draenio a pheirianneg
cysylltiedig gan gynnwys ailbroffilio tir, triniaeth ffin, adeileddau cynnal,
goleuadau allanol a theledu cylch cyfyng, a dargyfeirio hawliau tramwy
cyhoeddus. Gwybodaeth ychwanegol a diwygiedig a dderbyniwyd ar 25/01/2019 a
07/02/2019 dan Reoliad 24 mewn perthynas â bioamrywiaeth, tirwedd ac effaith
weledol, effaith economaidd gymdeithasol a thrafnidiaeth ynghyd ag addasiadau
i'r prif gynllun a chynllun paramedrau, ar dir ym Mhen-y-bryn, Croeserw, y
Cymer, Port Talbot.
Cofnodion:
Rhoddodd swyddogion
gyflwyniad ynghyd â'r wybodaeth ddiweddaraf am y cais hwn i'r Pwyllgor
Cynllunio (Cais cynllunio amlinellol (gan gynnwys mynedfa) ar gyfer cyrchfan
antur arfaethedig a oedd yn cynnwys 600 o gabanau/fflatiau, gwesty 100 o welyau
gyda sba cysylltiedig, man canolog sy'n cynnwys bwytai, gweithgareddau hamdden
a siopau, gweithgareddau antur ac adeiladau cysylltiedig (gan gynnwys chwaraeon
X, alpaidd/sgïo, gweithgareddau coedwig a Trax & Trail), bwytai ac
adeiladau gweinyddu a chynnal a chadw cysylltiedig a pharcio ar gyfer tua 850 o
geir, ynghyd â gweithrediadau tirlunio, draenio a pheirianneg cysylltiedig gan
gynnwys ailbroffilio tir, trin ffiniau, adeileddau cynnal, goleuadau allanol a
theledu cylch cyfyng, a dargyfeirio hawliau tramwy cyhoeddus. Gwybodaeth
ychwanegol a diwygiedig a dderbyniwyd ar 25/01/2019 a 07/02/2019 o dan Reoliad
24 o ran bioamrywiaeth, effaith tirwedd ac effaith weledol, effaith economaidd
gymdeithasol a chludiant ynghyd ag
addasiadau i'r prif gynllun a'r cynllun paramedrau, ar dir ym Mhen y Bryn,
Croeserw, y Cymer, Port Talbot) fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Yn unol â phrotocol
siarad cyhoeddus y Pwyllgor Cynllunio, rhoddodd cynrychiolwyr o Afan Valley
Limited a Duff & Phelps Ltd (gweinyddwyr Afan Valley Ltd), eu sylwadau i'r
Aelodau.
PENDERFYNWYD: |
Y dylid nodi'r
adroddiad. |
Dogfennau ategol: