Agenda item

Cais Rhif. P2020/0294 - Glannau'r Harbwr

Adeiladu ffordd fynediad, gwaith lliniaru llifogydd, gwaith adfer halogi tir, gwella cynhwysedd llwyth y ddaear a gwaith cysylltiedig i hwyluso adfywio hen dir llwyd ar gyfer datblygiad masnachol yn y dyfodol ar Safle Cyflogaeth Strategol Glannau'r Harbwr, Glannau'r Harbwr, Port Talbot.

 

Cofnodion:

Gwnaeth swyddogion gyflwyniad i'r Pwyllgor Cynllunio ar y Cais hwn (Adeiladu ffordd fynediad, gwaith lliniaru llifogydd, gwaith adfer tir halogedig, gwella gallu'r tir i gynnal llwythi a gwaith cysylltiedig i hwyluso'r gwaith i adfywio hen dir llwyd ar gyfer datblygiad masnachol yn y dyfodol ar Safle Cyflogaeth Strategol Glannau'r Harbwr, Ffordd Glannau'r Harbwr, Port Talbot) fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

PENDERFYNWYD:

Cymeradwyo Cais Rhif P2020/0294, yn unol ag argymhellion y swyddogion.

 

Dogfennau ategol: