Cofnodion:
Pwysleisiodd yr Aelodau fod tipio anghyfreithlon
bob amser yn annerbyniol ac nad yw byth yn cael ei wneud yn anfwriadol.
Derbyniodd yr Aelodau argymhelliad cyfarfod
cynharach y Pwyllgor Craffu, sef ymestyn y cyfnod rhybudd i drigolion lleol o
un mis i ddau fis, fel y nodir mewn print trwm ym mhenderfyniad 1 isod.
Penderfyniadau:
1.
Bod y cyngor yn peidio â
chasglu tecstilau wrth ymyl y ffordd ac yn newid ei ddull marchnata'n unol â
hynny, gan roi dau fis o rybudd i'r cyhoedd.
2.
Bod swyddogion yn gweithio
gydag unrhyw fusnesau lleol sy'n barod i dderbyn a/neu dalu am decstilau, i
helpu i hyrwyddo'r nifer cynyddol o ddigwyddiadau cymunedol a'r defnydd o
gyfleusterau 'gollwng' fel y rheini a ddarperir yng nghanolfannau ailgylchu
gwastraff cartref y cyngor.
Rheswm dros y penderfyniad:
Penderfynu ar y ffordd ymlaen o ran casglu
tecstilau wrth ymyl y ffordd.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Dogfennau ategol: