Cofnodion:
Rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad i'r cyngor
ar nifer yr achosion newydd o COVID-19 yn ardaloedd yr awdurdodau lleol
cyfagos. Mynegwyd pryder y byddai'r
cynnydd yn y niferoedd yn arwain at fwy o gyfyngiadau symud lleol a chytunodd
yr aelodau y dylid atgyfnerthu negeseuon mewn perthynas â chadw pellter
cymdeithasol.
Roedd yr Aelodau'n falch o nodi y byddai taflen
wybodaeth a ddatblygwyd ar y cyd gyda Dinas a Sir Abertawe a'r Bwrdd Iechyd
Lleol, yn cael ei ddosbarthu i bob aelwyd yn fuan.