Cofnodion:
Rhoddwyd y newyddion diweddaraf i'r aelodau am Farn
Flynyddol y Pennaeth Archwilio Mewnol ar y systemau rheolaeth fewnol sy'n
gweithredu o fewn y cyngor yn ystod blwyddyn ariannol 2019/2020 a manylion
cyflawniad yr Archwiliad Mewnol yn erbyn cynllun Archwilio Mewnol 2019/2020 a
gymeradwywyd gan yr Archwiliad.
Nodwyd mai barn y Pennaeth Archwilio
Mewnol oedd y gellid rhoi sicrwydd rhesymol na nodwyd unrhyw wendidau mawr mewn
perthynas â'r systemau rheolaeth fewnol, trefniadau llywodraethu a phrosesau
rheoli risg sy'n gweithredu o fewn y cyngor.
Amlygwyd bod 83% o'r archwiliadau a gynlluniwyd wedi'u
cynnal, sy'n dangos gwelliant o 80% o'r flwyddyn flaenorol. Cadarnhawyd bod gwaith archwilio mewnol wedi
cydymffurfio â holl Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus.
Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch Archwiliad Cofrestru
Diogelu Data Ysgolion. Esboniodd swyddogion fod rhai ysgolion a archwiliwyd
trwy gydol y flwyddyn wedi bod yn hwyr yn sicrhau bod y cofrestriad yn
gyfredol. Dylai hwn gael ei gwblhau bob blwyddyn, ond roedd un neu ddau yn
hwyr, felly cwblhaodd yr Archwiliad ymarfer gyda'r holl ysgolion i wirio a
oeddent yn cydymffurfio. Amlygwyd nad oedd unrhyw broblemau mawr, a bod pob
ysgol yn yr awdurdod bellach yn cydymffurfio â'u gofynion cofrestru. Yr
argymhelliad a roddwyd i bob ysgol oedd y dylid rhoi dyddiad yn eu calendr i'w
hatgoffa i adnewyddu eu cofrestriad yn flynyddol.
O ran yr Archwiliad Caffael na chynhaliwyd, esboniodd
swyddogion fod yr archwiliad hwn yn y cyfnod cynllunio ar ddechrau cyfnod y
pandemig, ac yn ystod trafodaethau cychwynnol gyda Phennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol cafodd yr archwilydd wybod bod Rheolwr Caffael newydd wedi'i benodi
a bod y Rheolau Gweithdrefnau Contract yn y broses o gael eu diweddaru, felly
gohiriwyd yr archwiliad er mwyn caniatáu i'r Rheolwr Caffael newydd wneud
newidiadau yr oeddent yn teimlo’u bod yn angenrheidiol ac i ganiatáu i'r
adolygiad Rheolau Gweithdrefnau Contract gael ei gwblhau. Esboniwyd, trwy ohirio'r
Archwiliad, nad oedd unrhyw risg ychwanegol i'r awdurdod.
Gofynnodd yr Aelodau a oedd risg ychwanegol i'r awdurdod,
trwy ohirio'r Archwiliad. Esboniodd swyddogion na sicrhawyd unrhyw gontractau
mawr yn ystod y pandemig ond rhan o'r gwaith y byddai'r Is-adran Archwilio
Mewnol yn ei wneud rhwng nawr a'r Nadolig oedd archwiliad o'r camau gweithredu
brys a gyflawnwyd yn ystod y cyfyngiadau symud. Byddai canfyddiadau’n cael eu
hadrodd wrth y Pwyllgor Archwilio pan fyddant wedi'u cwblhau.
Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch digon o adnoddau yn y Tîm
Archwilio. Esboniodd swyddogion fod y Cynllun Archwilio ar gyfer y chwarter o
fis Medi i fis Ragfyr 2020 yn blaenoriaethu gwaith ar systemau sylfaenol eleni
ac yn edrych ar brosesau a fyddai wedi newid o ganlyniad i weithio o bell a
gweithio gartref. Nodwyd na fyddai'r cyngor yn cyflawni'r cynllun drafft
archwilio gwreiddiol a fyddai wedi'i gyflwyno i aelodau yng nghyfarfod pwyllgor
mis Mawrth, pe bai wedi'i gynnal, gan fod y tîm wedi’i adleoli’n gynharach yn y
flwyddyn, ond byddai'n cael ei ailflaenoriaethu i edrych ar y meysydd lle ceir
y risg fwyaf. Roedd y Cynllun Archwilio a gyflwynwyd yn gynllun sy’n seiliedig
ar risg, felly yr archwiliadau byddai’n cael eu cynnal fyddai'r archwiliadau yr
ystyrir eu bod yn rhai risg uwch; ni fyddai rhai archwiliadau na chânt eu
hystyried yn rhai risg uchel yn cael eu cynnal. Lluniwyd y Cynllun Archwilio yn
seiliedig ar risg ac ynghyd â thrafodaeth â Phenaethiaid Gwasanaeth a
Chyfarwyddwyr Corfforaethol.
PENDERFYNWYD: Nodi'r
adroddiad.
Dogfennau ategol: