Cofnodion:
Derbyniodd yr Aelodau drosolwg o'r Datganiad o Gyfrifon
2019-2020, ar ôl i'r archwiliad allanol gael ei gwblhau.
Amlygodd swyddogion fod y Datganiad o Gyfrifon drafft
wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio yn ystod mis Mehefin 2020 ac y bu rhai
newidiadau i'r cyfrifon ers y dyddiad hwnnw.
Aeth swyddogion ymlaen i esbonio ei bod hi’n ofynnol yn
wreiddiol i awdurdodau lleol gwblhau a chyflwyno cyfres o gyfrifon i'w
harchwilio erbyn 15 Mehefin, gyda gofyniad i gael cymeradwyaeth y Pwyllgor
Archwilio. Oherwydd effaith COVID-19, diwygiwyd y dyddiadau hyn yn
ddiweddarach. Roedd angen diwygio'r dyddiad cymeradwyo terfynol ar gyfer y
cyfrifon i 15 Medi 2020; roedd hyn yn dal i fod yn unol â deddfwriaeth.
Esboniwyd bod prisiad newydd gan yr Actiwari Pensiwn wedi
dod i rym ar 1 Ebrill 2020 am y 3 blynedd nesaf; roedd hyn wedi ystyried yr hyn
y rhagwelwyd y byddai effeithiau pennaf Dyfarniad McCloud, ac o ganlyniad roedd
yr archwilwyr yn fodlon.
O ran y Prisiadau Asedau Eiddo, a grybwyllwyd gan Swyddfa
Archwilio Cymru dan yr eitem agenda flaenorol, roedd y rhain yn seiliedig ar
brisiadau annibynnol ar gyfer Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Dinas a Sir
Abertawe. Cynhaliwyd y prisiadau hyn yn flynyddol, ac os oedd angen, byddai
addasiadau’n cael eu rhoi ar waith trwy'r cyfrifon pensiwn, a fyddai wedyn yn
cael eu hadlewyrchu yn Natganiad o Gyfrifon y cyngor. Roedd yr archwilwyr wedi
amlygu y gallent gael effaith ar ddichonoldeb a chynaliadwyedd cyffredinol y
Cynllun Pensiwn, o ganlyniad i ostyngiadau mewn prisiadau. Dywedodd y
Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol nad oedd unrhyw bryder ar hyn o
bryd, ac y byddai angen mynd i'r afael â hyn fel rhan o archwiliad o gyfrifon y
Gronfa Bensiwn y flwyddyn nesaf.
Holodd yr aelodau a oedd cyn Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac
Adfywio yn gyfarwyddwr cyflogedig Cwmni Rheoli Gwastraff Castell-nedd Port
Talbot. Cadarnhaodd swyddogion fod y cyn-gyfarwyddwr yn gyfarwyddwr cyflogedig
Cwmni Rheoli Gwastraff Castell-nedd Port Talbot a Neath Port Talbot
Recycling Limited ond nad oedd y cyfarwyddwr presennol yn gyfarwyddwr
cyflogedig o'r naill na'r llall. Amlygwyd mai'r darparwr gwasanaeth hyd at 30
Medi 2019 oedd Neath Port Talbot Recycling Limited, ond ers 1 Hydref
2019 roedd yr holl staff a swyddogaethau wedi'u trosglwyddo ac yn cael eu
gweithredu'n uniongyrchol gan y cyngor. Hysbyswyd yr Aelodau hefyd y byddai Neath
Port Talbot Recycling Limited yn diddymu ei hun yn ystod y flwyddyn galendr
nesaf ac y byddai angen i'r Aelodau ystyried ffordd ymlaen mewn perthynas â'r
Cwmni Rheoli Gwastraff.
Nodwyd nad oedd yr acronymau a restrir dan yr Is-adran
Incwm Grantiau yn cael eu cynnwys yn y rhestr termau. Cytunodd swyddogion i
ehangu ar y rhain yn fersiwn derfynol y cyfrifon.
Diolchodd yr aelodau i Swyddfa Archwilio Cymru a
swyddogion am y gwaith a wnaed wrth baratoi'r cyfrifon ac am alluogi i'r
cyfrifon gael eu cau.
PENDERFYNWYD: 1. Nodi'r adroddiad.
2. Rhoi cymeradwyaeth i'r Cyfarwyddwr
Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol ddiwygio acronymau yn y Datganiadau o'r
fersiwn gyhoeddedig derfynol o'r cyfrifon;
3. Cymeradwyo'r Llythyr Sylwadau, sydd
wedi'i gynnwys fel Adendwm 1 yr adroddiad a ddosbarthwyd;
4. Cymeradwyo Datganiad o Gyfrifon
terfynol 2019-2020, sydd wedi'i gynnwys yn Adendwm 2 yr adroddiad a
ddosbarthwyd;
5. Rhoi caniatâd i Gadeirydd y Pwyllgor
Archwilio ddarparu ei lofnod electronig ar gyfer y Llythyr Sylwadau a'r
Datganiad o Gyfrifon.
Dogfennau ategol: