Datblygiad
Preswyl - Amrywiad ar amodau 2 (Deunyddiau Allanol), 11 (Darparu Ynys Ffug) ac
17 (Rhaglen Fesul Cam Gwaith Adeiladu Heol Fynediad) a diwygiadau i gynllun y
safle a manylion peirianneg cais P2010/0562 (a oedd yn amrywio caniatâd
P2003/1330) ar dir i'r de o Heol y Glyn, Glyn-nedd.
Cofnodion:
Gwnaeth swyddogion gyflwyniad
i'r Pwyllgor Cynllunio ar y Cais hwn (Datblygiad
Preswyl - Amrywio amodau 2 (Deunyddiau Allanol), 11 (Darparu Ynys Ffug) a 17 (Rhaglen Waith Fesul Cam ar gyfer Adeiladu'r
Ffordd Fynediad) a diwygiadau i gynllun y safle a manylion peirianyddol cais P2010/0562 (a oedd yn amrywio
caniatâd P2003/1330) ar dir i'r de o Heol
y Glyn, Glyn-nedd) fel y nodir yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd.
Yn
unol â Phrotocol Siarad Cyhoeddus cymeradwy'r cyngor, anerchodd siaradwr cofrestredig y Pwyllgor Cynllunio ac arferodd yr asiant ei
hawl i ymateb. Rhoddodd Aelodau Ward Lleol eu sylwadau
hefyd.
PENDERFYNWYD: Cymeradwyo
Cais Rhif P2020/0195, yn unol ag argymhellion
swyddogion, yn amodol ar y diwygiad
i amod 1 ar y daflen ddiwygio, ond bod amodau 2 a 30 yn cael eu
cadw yn unol
â geiriad yr adroddiad gwreiddiol (er mwyn sicrhau
y rhoddir ystyriaeth bellach i gadw coed ar ffiniau'r
safle).
Dogfennau ategol: