Cofnodion:
Er
mawr ofid iddo, atgoffodd y Maer yr aelodau am farwolaeth sydyn y Cynghorydd
Steffan ap Dafydd. Yn ogystal, dywedwyd
wrth y cyngor am farwolaeth mam y Cynghorydd Nicola-Jayne Davies.
Fel
arwydd o barch, cafwyd munud o ddistawrwydd yng nghyfarfod y cyngor.
Talwyd
teyrnged i'r diweddar Gynghorydd Steffan ap Dafydd gan y Dirprwy Arweinydd ac
arweinwyr y Grŵp Annibynnol a Phlaid Cymru ar ran eu haelodau.