Cofnodion:
Cytunodd yr
Aelodau i newid 'penodi dau aelod' i 'benodi aelodau 'neilltuedig', fel a
ddangosir mewn print trwm isod.
Penderfyniad:
Bydd Cyngor
Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn hysbysu Tai Tarian Limited bod yr
aelodau neilltuedig a benodwyd yn dymuno ymddiswyddo o'r bwrdd
gwirfoddol, ac o ddyddiad ymddiswyddiad o'r fath, nid yw Cyngor Bwrdeistref
Sirol Castell-nedd Port Talbot bellach yn bwriadu penodi cynrychiolwyr sy'n
aelodau etholedig i fwrdd gwirfoddol Tai Tarian Limited.
Rheswm dros
y penderfyniad:
Sicrhau bod
trefniadau llywodraethu addas ar waith mewn perthynas â pherthynas y Cyngor â
Tai Tarian Limited ac atal aelodau a benodir rhag cael eu rhoi mewn sefyllfa o
wrthdaro rhwng eu dyletswyddau fel aelodau o'r bwrdd gwirfoddol ac aelodau
etholedig o'r cyngor.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Dogfennau ategol: