Cofnodion:
Penderfyniadau:
1.
Ni fydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn enwebu cynrychiolwyr
i fyrddau sefydliadau a ariannwyd gan y cyngor mwyach, a lle'r oedd cyfranogiad
ym myrddau'r sefydliadau hynny'n wirfoddol.
2.
Hysbysir Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot, Gofal a
Thrwsio Castell-nedd Port Talbot, Ardal Gwella Busnes Castell-nedd, Ardal
Gwella Busnes Port Talbot a Chymdeithas Gymunedol Pobl Dduon a Lleiafrifoedd
Ethnig Castell-nedd Port Talbot fod penodedigion presennol y cyngor yn dymuno
ymddiswyddo o'r sefydliadau hyn ac o ddyddiad ymddiswyddiad o'r fath, nid yw
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot bellach yn bwriadu penodi
cynrychiolwyr sy'n aelodau etholedig i'r sefydliadau hyn.
Rheswm dros
y penderfyniad:
Sicrhau bod
trefniadau llywodraethu addas ar waith mewn perthynas â pherthynas y cyngor â'r
sefydliadau a ariennir ganddo ac atal aelodau a benodir rhag cael eu rhoi mewn
sefyllfa o wrthdaro rhwng eu dyletswyddau fel aelodau o'r sefydliadau hyn ac
aelodau etholedig o'r cyngor.
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Dogfennau ategol: