Cofnodion:
Nododd yr
Aelodau fod angen cyhoeddi rhan gyntaf Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024
cyn mis Hydref 2020.
Penderfyniadau:
1.
Caiff Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024, fel y'i hatodir yn Atodiad
1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd, ei gyflwyno i'r cyngor i'w gymeradwyo.
2.
Rhoddir awdurdod dirprwyedig i Aelod y Cabinet dros Wasanaethau
Corfforaethol a Chydraddoldebau i wneud unrhyw newidiadau y gallai fod eu
hangen i'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol cyn ei gyhoeddi, ar yr amod nad yw
newidiadau o'r fath yn newid cynnwys y ddogfen a ystyrir gan y cyngor yn
sylweddol.
Rheswm dros
y penderfyniad:
Bodloni'r
gofynion statudol a nodir yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau
Statudol) (Cymru) 2011.
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Ymgynghoriad:
Mae'r eitem
hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol.
Dogfennau ategol: