Cofnodion:
Penderfyniadau:
1.
Cymeradwyo'r cynigion arfaethedig i symud arian wrth gefn a throsglwyddo
arian o'r gyllideb, fel y'u nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
2.
Nodi'r problemau gweithredol ac ariannol fel y'u nodwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd.
3.
Bod y cyngor yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, yn unol â
deddfwriaeth, rheoliadau a chyfarwyddiadau, i ddarparu gwasanaethau yn ystod y
cyfnod heriol hwn.
4.
Nodi'r grantiau ychwanegol a dderbyniwyd, fel y'u nodir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd.
5.
Bod y cyngor yn parhau i geisio cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i
dalu am ganlyniadau COVID-19 megis gwariant uwch, colli incwm, cost uwch
Cymorth Treth y Cyngor a diffygion casgliadau treth y cyngor, sy'n cael effaith
andwyol ar gyllid a gweithgarwch y cyngor.
Rheswm dros
y penderfyniad:
Diweddaru
Cyllideb y Cyngor ar gyfer 2020/21 a rhoi gwybod i'r Aelodau am y risgiau
ariannol sy'n deillio o COVID-19.
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Dogfennau ategol: