·
Dewis eitemau
priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau
ar gyfer yr Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar
agenda'r Cabinet:
Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 - 2024
Eglurwyd bod Cynllun Cydraddoldeb Strategol
2020-2024 yn cael ei gyflwyno i'r Aelodau mewn dwy ran:
·
Rhan un – yr amcanion
cydraddoldeb strategol a'r holl wybodaeth berthnasol arall yr oedd yn ofynnol
ei chynnwys yn y cynllun er mwyn sicrhau bod y cyngor yn bodloni'r holl
reoliadau cydraddoldeb. Soniwyd bod y comisiwn yn gofyn bod yr holl gynlluniau
cydraddoldeb strategol ar waith erbyn mis Hydref.
Nodwyd bod angen cwblhau gwaith ar y camau gweithredu a
fydd yn sail i gyflawni'r amcanion a geir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd; roedd
y gwaith hwn eisoes wedi dechrau, gyda thrafodaethau'n cael eu cynnal o fewn y Gymdeithas
Cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig a Du ac ymhlith y staff, a byddai'n ffurfio
cynllun gweithredu.
·
Rhan dau – y cynllun
gweithredu ar gyfer cyflawni'r amcanion a gyflwynir i Bwyllgor Craffu'r Cabinet
tua diwedd y flwyddyn.
Awgrymodd yr Aelodau pan fyddai unigolion yn
cyflwyno cais am swydd o fewn y cyngor, y dylid rhoi rhif i'w cais yn hytrach
na’u henw er mwyn osgoi unrhyw gysylltiadau â rhyw, ethnigrwydd ac ati. Nodwyd
y gellid trafod hyn yn ail ran cyflawni'r cynllun cydraddoldeb strategol, pan
fyddai'r camau gweithredu'n cael eu cyflwyno.
Cafwyd dyfyniad yn yr adroddiad a ddosbarthwyd sef
'fel person di-Gymraeg sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru, rwyf eisoes yn
teimlo bod polisi ac arferion Llywodraeth Cymru yn gwahaniaethu yn fy erbyn'.
Gofynnodd yr Aelodau a oedd yr unigolyn wedi rhoi unrhyw fanylion mwy penodol
mewn perthynas â'i bryderon. Nodwyd na ddarparwyd rhagor o fanylion, fodd
bynnag byddai swyddogion yn ceisio penderfynu beth arall y gallai'r cyngor fod
yn ei wneud a pha wybodaeth ychwanegol y gellid ei chasglu mewn ymarferion
ymgynghori yn y dyfodol.
Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.
Cynrychiolaeth ar Gyrff Allanol
(Cadarnhaodd y Cynghorydd S Rahaman ei fudd ar y pwynt
hwn a gadawodd y cyfarfod)
(Cadarnhaodd y Cynghorydd P Richards ei fudd ar y pwynt hwn
a gadawodd y cyfarfod)
(Cadarnhaodd y Cynghorydd D Jones ei budd ar y
pwynt hwn a gadawodd y cyfarfod)
(Cadarnhaodd y Cynghorydd N Hunt ei fudd ar y pwynt
hwn a gadawodd y cyfarfod)
Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ar Gynrychiolaeth y
Cyngor ar Gyrff Allanol i ystyried manteision ac anfanteision
Aelodau'n cael eu cynnwys yn ffurfiol ar fyrddau
gwirfoddol detholiad o sefydliadau. Roedd swyddogion wedi cynnig dewisiadau
amgen i'r trefniad i amddiffyn Aelodau rhag y gwrthdrawiadau buddiannau a
fyddai'n codi mewn perthynas â pharhau â'r trefniadau presennol.
Amlygwyd nad oedd canllawiau penodol gan CLlLC ar y
mater hwn, ac yn hytrach mater i gynghorau unigol oedd penderfynu pa drefniadau
y dylid eu rhoi ar waith a pha rôl roeddent yn rhagweld y byddai eu Haelodau’n
ei chael yn y gymuned.
O ran yr hyn yr oedd cynghorau eraill wedi'i wneud,
nodwyd bod nifer o gynghorau lle nad oedd Aelodau'n rhan o fyrddau a chynghorau
eraill lle roeddent yn gwneud hynny, a reolwyd trwy'r dull gwrthdrawiadau
buddiannau. Dywedodd swyddogion fod Cyngor Castell-nedd Port Talbot am sicrhau
bod gan Aelodau'r gallu i allu siarad, pleidleisio a gwneud sylwadau ar unrhyw
fater o fewn eu rôl fel Cynghorydd Bwrdeistref Sirol ac na fyddai bod yn
aelodau o rai o’r byrddau, lle byddai'n rhaid iddynt weithredu er eu budd hwy
eu hunain hefyd, yn anfanteisiol iddynt. Nodwyd bod rheoli'r budd yn y dyfodol
yn bwysig yn ogystal â nodi sut y gellid ei reoli trwy wahanol ddulliau;
gallai'r dulliau hyn ganiatáu i Aelodau gael lefel o reolaeth a mynediad at
wybodaeth fel nad oedd eu rôl fel Cynghorydd Bwrdeistref Cefn Gwlad yn llai a
gallent wneud penderfyniadau mewn perthynas â'r hyn sy'n digwydd yn y gymuned,
heb i Aelod fod yn rhan o'r bwrdd.
Teimlai rhai Aelodau fod ganddynt fwy o fanteision
o allu bod yn rhan o'r sefydliadau na pheidio, oherwydd y pwerau a'r dylanwad y
byddent yn eu hildio. Soniwyd bod y cyngor yn gallu gweithredu hyd yn oed pe
bai'n rhaid i Aelod dynnu'n ôl o gyfarfod. Nododd swyddogion y gallai Aelodau,
fel dewis arall, drafod eu mater penodol â swyddog yn y cyngor i arfer y
mesurau a fyddai ar gael dan y trefniadau cytundebol a grant, er mwyn gallu
cael yr wybodaeth a datrys yr ymholiadau penodol wrth iddynt ddatblygu.
Eglurwyd, pan benodwyd Aelodau gan y cyngor i fod
yn aelodau ar gyrff allanol, nad ydynt bellach yn cynrychioli'r cyngor; yn
hytrach, y cyrff allanol y’u penodwyd iddynt yn unig fydd yn gyfrifol am eu
buddiannau. Ychwanegwyd nad oedd Aelodau'n rhan o fyrddau i geisio dylanwadu ar
y sefydliad hwnnw, roeddent yno i'w cynrychioli.
Gofynnodd yr Aelodau a allai'r cyngor gael
trafodaeth â’r sefydliadau, i gynnig bod ganddynt statws arsylwr yn lle cael cynrychiolaeth
lawn o'r bwrdd wedi'i henwebu gan y cyngor. Amlygwyd y gallai hyn fod yn ffordd
o sicrhau y gallai sefydliadau barhau i elwa o gyfranogiad a phrofiad Aelodau
lleol heb fod unrhyw wrthdrawiadau buddiannau’n peryglu'r sefydliad neu'r
Aelodau.
Mynegwyd pryder ynghylch difreinio'r cyngor o’r
cyrff allanol y mae'n eu hariannu, a gwnaed awgrym y dylid cael arsylwyr
di-bleidlais ar y byrddau i sicrhau y gellid craffu'n fewnol ar y modd y
defnyddir cyllid.
Amlygodd swyddogion fod nifer o ffyrdd y gallai'r
cyngor sicrhau bod aelodau'n parhau i oruchwylio trafodaethau a gweithdrefnau
yng nghyfarfodydd bwrdd y cyrff allanol; fel y soniwyd yn gynharach, roedd gan
y cyngor gytundebau grant a threfniadau contract ar waith a oedd yn galluogi
Swyddogion ac Aelodau i weld dogfennau megis cynlluniau busnes, datganiadau o
gyfrifon ac adroddiadau monitro. Nodwyd y gellid gwneud trefniadau i Aelodau
dderbyn adroddiadau rheolaidd ar fuddsoddiad y cyngor a phe bai cyfleoedd
eraill i Aelodau gymryd rhan yn y cyrff allanol, gellid ymchwilio ymhellach i
hyn. Ychwanegwyd bod gan y cyngor drefniad cryno gyda'r sector gwirfoddol yn
fwy cyffredinol a bod cyfle o fewn y partneriaethau hynny, i edrych ar sut
mae'r cyngor yn gweithio gyda'r cyrff hynny.
Soniwyd y gallai Aelodau barhau i ddewis bod yn
rhan o fwrdd mewn cymhwyster personol yn hytrach na chael eu dyrannu i wneud
hynny gan y cyngor, fodd bynnag byddai angen iddynt fod yn ymwybodol o'r
gwrthdrawiadau buddiannau.
Cynhaliwyd trafodaeth mewn perthynas â geiriad yr
argymhellion a geir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn enwedig y rhestr o gyrff
allanol y manylir arnynt yn yr argymhelliad. Cadarnhawyd bod swyddogion wedi
mynd drwy'r rhestr o gyrff allanol lle’r oedd y cyngor yn gwneud enwebiadau ar
hyn o bryd a'r cyrff allanol a ariannwyd gan y cyngor ar hyn o bryd ond lle
gwnaed enwebiadau'n wirfoddol, a'u cynnwys yn yr adroddiad. Ychwanegwyd bod y
polisi newydd yn amlygu na fyddai'r cyngor yn ceisio gwneud yr enwebiadau hyn
yn y dyfodol ar gyfer y sefydliadau penodol hyn.
Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant ffurfiol i'r
argymhelliad yn yr adroddiad a ddosbarthwyd:-
'Argymhellir bod swyddogion yn ymchwilio i'r
posibilrwydd o benodi arsylwyr i fyrddau sefydliadau lle mae Cyngor
Castell-nedd Port Talbot wedi tynnu cynrychiolwyr o'r byrddau y cyfeirir atynt
yn yr argymhelliad'.
Penderfynwyd galw rhestr enwau at ddibenion
penderfynu ar y bleidlais; methodd y gwelliant o ganlyniad i alw'r rhestr
enwau.
Yna cynigiodd ac eiliodd Pwyllgor Craffu'r Cabinet
y cynigion cychwynnol yn yr adroddiad:-
·
Argymhellir nad yw Cyngor
Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot bellach yn enwebu cynrychiolwyr i
fyrddau sefydliadau a ariennir gan y Cyngor a lle mae cyfranogiad ar fyrddau'r
sefydliadau hynny’n wirfoddol.
·
Hysbysir Gwasanaethau Gwirfoddol
Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Gofal a Thrwsio Castell-nedd Port Talbot,
Ardal Gwella Busnes Castell-nedd, Ardal Gwella Busnes Port Talbot a Chymdeithas
Cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig a Du Castell-nedd Port Talbot, ar yr amod y
cytunir ar argymhelliad 1, fod y rhai a benodir gan y cyngor presennol yn
dymuno ymddiswyddo o'r sefydliadau hyn ac o ddyddiad ymddiswyddiad o'r fath,
nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot bellach yn bwriadu
penodi cynrychiolwyr aelodau etholedig i'r sefydliadau hyn.
Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.
(Croesawyd y Cynghorydd S Rahaman, y Cynghorydd P
Richards, y Cynghorydd D Jones a'r Cynghorydd N Hunt yn ôl i'r cyfarfod)
Newidiadau i Gynrychiolaeth Tai Tarian
Cyflwynwyd adroddiad mewn perthynas â diswyddo
Aelodau Etholedig o fwrdd gwirfoddol Tai Tarian Limited i'r Pwyllgor.
Gofynnodd yr Aelodau am sicrwydd y byddai Tai Tarian
yn dal i gael ei ddal i gyfrif heb gynrychiolaeth Aelodau lleol ar y bwrdd, er
mwyn sicrhau bod anghenion y gymuned yn cael eu diwallu a gofynnwyd am
gymhariaeth â threfniadau atebolrwydd ar gyfer cymdeithasau cydfuddiannol
trosglwyddo stoc mewn ardaloedd awdurdodau lleol eraill.
Hysbysodd swyddogion y Pwyllgor o’r cytundeb
trosglwyddo manwl iawn oedd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot gyda Tai Tarian
a luniwyd adeg trosglwyddo'r stoc tai yn 2011; roedd y cytundeb trosglwyddo hwn
yn dal yn ddilys ac yn cynnwys nifer o rwymedigaethau cyfreithiol yr oedd yn
rhaid i Tai Tarian gydymffurfio â nhw, ac roedd rhai rhwymedigaethau cytundebol
hefyd y bu'n rhaid i'r cyngor gydymffurfio â hwy. Nodwyd bod fframweithiau a
dulliau ar waith i sicrhau bod Tai Tarian a'r cyngor yn gweithio gyda'i gilydd
i gyflawni nodau cyffredin, ac os nad oedd y naill barti na'r llall yn
cydymffurfio, roedd prosesau anffurfiol a ffurfiol ar waith dan y contract i
ddal pobl i gyfrif, gan gynnwys yr atgyfeiriad i ddatrys anghydfod ac achos
llys. Ychwanegwyd bod yr Aelodau hefyd wedi cael cyfle i wahodd Tai Tarian i
fod yn rhan o'r broses graffu.
Cafwyd trafodaeth ynglŷn â chael statws
arsylwr ar fwrdd gwirfoddol Tai Tarian. Eglurodd swyddogion mai'r ddarpariaeth
yn y cytundeb trosglwyddo yw y gall y cyngor enwebu Aelodau os yw’n dymuno
gwneud hynny ac nad oes gorfodaeth dan y cytundeb ar hyn o bryd.
Nowyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd nad oedd y
cytundeb trosglwyddo bellach yn mynnu bod yn rhaid i Tai Tarian fod yn
bresennol mewn pwyllgorau craffu, ond yn hytrach gellid estyn gwahoddiad;
Gofynnodd yr Aelodau a oedd hyn wedi digwydd erioed, a dywedodd swyddogion fod
rhwymedigaeth ar Tai Tarian, dan delerau'r cytundeb trosglwyddo, i fod yn
bresennol mewn unrhyw bwyllgorau craffu y byddai'r cyngor yn eu cynnal am chwe
blynedd o'r dyddiad trosglwyddo; fodd bynnag, daeth y chwe blynedd i ben yn
2017, felly nid oedd unrhyw orfodaeth arnynt mwyach i fod yn bresennol mewn
unrhyw bwyllgorau craffu.
Mynegodd yr Aelodau eu pryderon ynglŷn ag
atebolrwydd a pherthynas y cyngor â Tai Tarian yn y dyfodol. Amlygodd
swyddogion pe bai gan Aelod fater penodol yr oedd yn ymdrin ag ef ar ran
etholwr, y byddai ganddo hawl i'w godi gyda Tai Tarian; fel arall pe bai
Aelodau'n ei chael hi'n anodd cysylltu â Tai Tarian neu fynd ar drywydd
materion gyda hwy, gallent ei godi gyda swyddog o'r cyngor a allai nodi a ellid
ymdrin â'r mater drwy unrhyw ddulliau dan y cytundeb trosglwyddo.
Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant ffurfiol i'r
argymhelliad yn yr adroddiad a ddosbarthwyd:-
'Argymhellir bod Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn
gofyn i Tai Tarian dderbyn arsylwyr y cyngor yn lle aelodau bwrdd ffurfiol'.
Penderfynwyd galw rhestr enwau at ddibenion
penderfynu ar y bleidlais; methodd y gwelliant o ganlyniad i alw'r rhestr
enwau.
Yna cynigiodd ac eiliodd Pwyllgor Craffu'r Cabinet
y cynigion cychwynnol yn yr adroddiad, gyda’r gair ‘neilltuedig' yn cael ei roi
yn lle'r gair 'dau':-
·
Argymhellir bod Cyngor
Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn hysbysu Tai Tarian Limited bod y
ddau aelod neilltuedig a benodwyd ganddynt yn dymuno ymddiswyddo o'r bwrdd
gwirfoddol ac o ddyddiad ymddiswyddiad o'r fath, nid yw Cyngor Bwrdeistref
Sirol Castell-nedd Port Talbot yn bwriadu penodi cynrychiolwyr aelodau
etholedig mwyach i fwrdd gwirfoddol Tai Tarian Limited.
Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.