·
Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr
Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Dewisodd y pwyllgor graffu ar yr eitemau canlynol
ar agenda Bwrdd y Cabinet:
Diweddaru a Monitro'r Gyllideb
Derbyniodd Aelodau drosolwg o
oblygiadau ariannol COVID-19 ar Adnoddau Ariannol y Cyngor a Chyllideb 2020/21,
fel a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Tynnwyd sylw at y ffaith bod
camgymeriad ar dudalen 4 yr adroddiad sy'n datgan 'ac rydym yn aros am
gadarnhad gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â £1 arall'; cadarnhawyd y dylid
diwygio'r ffigur i £1.8m.
Nododd swyddogion fod
Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £188.5m yn wreiddiol i awdurdodau lleol adennill
costau a cholled incwm drwy'r Gronfa Caledi - roedd hyn yn berthnasol i'r
cyfnod hyd at ddiwedd mis Mehefin yn bennaf. Nodwyd bod y cyngor wedi cyflwyno
hawliadau am wariant ychwanegol a gafwyd (£4.133m) a'i fod yn dal i aros am
gadarnhad o'r ad-daliad am yr hawliad a wnaed ym mis Gorffennaf. Dywedwyd wrth
yr Aelodau fod Llywodraeth Cymru, ers ysgrifennu'r adroddiad, wedi cytuno i
ad-dalu costau o £409k ar gyfer prydau ysgol am ddim a thua £207k o gostau
gwasanaethau cymdeithasol; gan adael tua £156k o arian dyledus ar gyfer costau
ychwanegol, yr oedd Llywodraeth Cymru wedi dweud na fyddent yn eu had-dalu.
Soniwyd bod y rhan fwyaf o'r arian dyledus ar gyfer costau caledwedd TGCh
ychwanegol yr oedd y cyngor wedi'u cael, lle'r oedd Llywodraeth Cymru ond yn
ad-dalu 50% o gostau a 25% o gostau cyfathrebu a marchnata'r cyfryngau.
Nododd y Pwyllgor fod
Llywodraeth Cymru wedi ad-dalu gwerth £2.3m o incwm a gollwyd mewn perthynas â
pharciau, canolfannau hamdden, llyfrgelloedd, theatrau, prydau ysgol, gwastraff
masnach a pharcio; a bod y cyngor wedi cyflwyno cais pellach am £1.8m a oedd yn
ymwneud yn bennaf ag ysgolion, Hillside, incwm rhent o wasanaethau amgylcheddol
ac incwm o brosiectau cyfalaf. Tynnwyd sylw at y ffaith bod angen eglurhad o
hyd ynghylch sut y byddai Llywodraeth Cymru'n adolygu hawliadau ar gyfer colled
incwm, ond roedd yr adroddiad yn tybio y byddai £400k o'r £1.8m yn cael ei
ad-dalu ar hyn o bryd.
Yn dilyn hyn, cadarnhawyd bod
Llywodraeth Cymru, ar 17 Awst 2020, wedi cyhoeddi £264m o gyllid ychwanegol i
Awdurdodau Lleol liniaru ymhellach yn erbyn effaith ariannol COVID-19 ac, fel
rhan o'r cyhoeddiad, nodwyd y byddai £25m yn gysylltiedig â glanhau ysgolion.
Nodwyd, o ganlyniad i hyn, fod y gorwariant rhagamcanol gwreiddiol o £10m a
adlewyrchwyd yn y dadansoddiad o'r adroddiad yn debycach i £5m ar hyn o bryd.
Cafwyd trafodaeth mewn
perthynas â chynnydd y blaengynllunio ariannol a'r taliadau incwm a gollwyd.
Nodwyd nad oedd unrhyw sicrwydd gan Drysorlys y DU na'r Llywodraeth y byddai
taliadau canlyniadol pellach yn cael eu rhoi yn y dyfodol, felly ni allai
Llywodraeth Cymru warantu unrhyw daliadau incwm pellach a gollwyd; fodd bynnag,
roeddent yn talu'r rhan fwyaf o'r hawliadau ac yn monitro'n effeithlon. Soniwyd
y byddai angen i'r cyngor ddechrau edrych ar eu trefn treth y cyngor eu hunain,
lle bu rhywfaint o arian ychwanegol ar gyfer cynlluniau rhyddhad treth y
cyngor; ychwanegwyd y byddai gan y cyngor well syniad dros y misoedd nesaf o'r
cronfeydd wrth gefn posib y byddai angen eu defnyddio er mwyn llenwi bwlch y
gyllideb ar gyfer eleni. Hysbyswyd yr Aelodau y byddai Swyddogion yn dechrau
edrych ar gyllideb y flwyddyn nesaf dros y ddeufis nesaf ac y byddent yn dod ag
ystyriaethau i Aelodau yn ôl ym mis Hydref; soniwyd bod Llywodraeth y DU yn
cynnal adolygiadau o wariant i geisio nodi faint o adnoddau sydd ar gael ar
gyfer 2021/22 a'r blynyddoedd dilynol, a fyddai'n rhan hanfodol o gyllidebau'r
dyfodol.
O ran colli incwm yn Hillside,
gofynnodd yr Aelodau a oedd Swyddogion wedi cael rhagor o wybodaeth o ran a
fyddai cymorth yn cael ei ddarparu. Nodwyd bod gan Hillside orwariant o £803k;
roedd y cyngor wedi gofyn am y chwarter cyntaf (£467k) gan Lywodraeth Cymru, yn
ychwanegol i'r £2m a oedd ar gael ganddynt i'w fuddsoddi mewn gwella'r
cyfleusterau yn Hillside. Ychwanegwyd y byddai angen rhywfaint o'r arian hwnnw
i wrthbwyso'r ffaith nad oedd dwy ystafell ar gael tra eu bod yn cael eu
huwchraddio a bod rhywfaint o gymorth wedi'i ddarparu o fewn y £2m oherwydd
rhai o'r cyfyngiadau COVID-19 a oedd yn achosi'r gorwariant rhagamcanol.
Cadarnhaodd swyddogion nad oedd Llywodraeth Cymru wedi adolygu'r mater penodol
hwn eto, ond roeddent yn gobeithio y byddent yn gwneud hyn yn y dyfodol agos
ac, yn dilyn hyn, byddai Swyddogion yn hysbysu Aelodau fel rhan o'r adroddiad
monitro cyllideb nesaf.
Yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd, nodwyd bod gan Hillside gontract bloc gyda'r Gwasanaeth
Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) a oedd yn gwarantu taliad am 6 gwely. Gofynnodd yr
Aelodau a oedd y GCI yn dal i dalu am y 6 gwely hyn, a chadarnhaodd Swyddogion
eu bod nhw, ac er na fyddai pob un ohonynt yn cael eu defnyddio bob amser,
roeddent yn talu am argaeledd gwarantedig y gwelyau, a oedd wedi'i gynnwys yn y
ffrydiau incwm am y flwyddyn. Nodwyd bod Swyddogion yn disgwyl i Lywodraeth
Cymru ad-dalu'r arian i Hillside a'i bod yn bwysig parhau i bwyso ar hyn gan
nad yw'r cyngor yn gwneud elw nac yn cynhyrchu incwm o Hillside.
Gofynnodd yr Aelodau i
Swyddogion egluro ystyr derbyniadau gorchymyn atebolrwydd gan y'u crybwyllwyd
yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Cadarnhawyd, pan nad yw rhywun wedi talu treth
y cyngor a/neu ardrethi busnes, y gallai'r llysoedd roi gorchymyn atebolrwydd
i'r cyngor, sy'n ychwanegu ffi at y bil sy'n weddill.
Nodwyd bod rhai ffrydiau incwm
wedi'u hailgyflwyno o fis Medi ymlaen megis taliadau parcio ceir a phrydau
ysgol i ddisgyblion, a byddai’r rhain yn cael eu hystyried a'u cynnwys
ymhellach mewn amcanestyniadau drwy weddill y flwyddyn.
O ran cymorth treth y cyngor,
tynnwyd sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddai £2.85m ar
gael i ariannu'r nifer ychwanegol o hawliadau a chostau cymorth treth y cyngor
a dalwyd gan gynghorau ar gyfer chwarter cyntaf eleni; Amcangyfrifodd swyddogion
y byddai gwerth cyfran Castell-nedd Port Talbot tua £120k, ac nid oedd hyn
wedi'i gynnwys yn yr adroddiad.
Cafwyd trafodaeth ynghylch
hawlwyr cymorth treth y cyngor (CTRS) ac a oedd y tybiaethau a gynhwyswyd yn yr
adroddiad, lle mae'n nodi costau o £529k dros gyllideb sy'n deillio o CTRS, a
allai gynyddu i £1m a mwy yn ystod weddill 2020/21, yn cynnwys dod â'r cynllun
ffyrlo i ben a'r diswyddiadau a diweithdra anochel y gellir eu cael o ganlyniad
i hynny. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith y gallai cost casglu treth y
cyngor a chymorth treth y cyngor gynyddu'n sylweddol pe bai ffyrlo'n arwain at
ragor o bobl yn colli swyddi pan ddaw i ben, fodd bynnag, fel y soniwyd eisoes,
byddai Llywodraeth Cymru’n ad-dalu cynghorau ledled Cymru ac nid oedd yr union
ffigur ar gyfer Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi'i gadarnhau eto.
Hysbyswyd yr Aelodau nad oedd
Llywodraeth Cymru'n ariannu penderfyniadau lleol, felly pe bai Castell-nedd
Port Talbot yn penderfynu fel cyngor i wneud rhywbeth nad oedd Llywodraeth Cymru
wedi dweud wrth yr holl gynghorau i'w wneud, byddai angen ystyried y costau.
Enghraifft o hyn oedd prynu mygydau wyneb.
Diolchodd y Pwyllgor i holl
weithwyr y Gyfarwyddiaeth Gyllid am eu gwaith caled parhaus yn ystod pandemig
COVID-19.
Yn dilyn y broses graffu,
roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.