Newid
defnydd o Neuadd Efengylu (dosbarth defnydd D1) i garej/storfa/gweithdy at
ddefnydd anfasnachol (Sui Generis Use), ynghyd â gosod drws pren ar y blaenlun
a ffurfio croesfan llwybr troed gerbydol wrth y Neuadd Efengylu, Ynys Street,
Port Talbot.
Cofnodion:
Rhoddodd
swyddogion gyflwyniad i'r Pwyllgor Cynllunio ar y cais hwn (Newid defnydd o
Neuadd yr Efengyl (defnydd dosbarth D1) i garej/storfa/weithdy at ddefnydd
anfasnachol (defnydd Sui Generis), a hefyd gosod drws pren i'r blaenlun a gosod
croesfan llwybr troed a cherbydau newydd wrth Neuadd yr Efengyl, Ynys Street,
Port Talbot) fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Rhoddodd
ddau Aelod Ward Lleol eu sylwadau ar yr eitem hon.
Nododd yr
aelodau fod gwall argraffu yn Amod 7, lle'r oedd y gair 'any' wedi'i adael
allan. Mae'r gwall wedi'i gywiro isod, ac wedi'i amlygu mewn llythrennau
bras ac italig.
PENDERFYNWYD: |
Cymeradwyo
Cais Rhif P2020/0470, yn unol ag argymhellion swyddogion, gan ystyried y
diwygiad i Amod 7, fel y manylir isod, ac yn amodol ar yr amodau a fanylir yn
yr adroddiad a ddosbarthwyd. ·
Amod 7: Bydd y gair 'cerbyd' yn cymryd lle'r gair 'car' fel isod: Cyfyngir y
garej a gymeradwyir (defnydd Sui Generis) i weithgareddau anfasnachol, gan
gynnwys storio/cadw uchafswm o ddau gerbyd modur a dau feic modur, a
chaniatáu i uchafswm o dri cherbyd modur (ac eithrio beiciau modur) ar unrhyw
adeg, ynghyd â storio eitemau domestig ac eitemau cysylltiedig eraill, ac ni
chaniateir defnyddio'r eiddo ar gyfer unrhyw weithgaredd masnachol ar unrhyw
adeg, gan gynnwys chwistrellu Rheswm: Er lles amwynder gweledol a phreswyl, diogelwch priffyrdd a cherddwyr ac
i gydymffurfio â Pholisïau BE1. |
Dogfennau ategol: