Cofnodion:
Sylwer: Dosbarthwyd taflen ddiwygiadau mewn
perthynas â'r rhifau cais: Dosbarthwyd P2020/0362 a P2020/0486 cyn y cyfarfod,
yr oedd y Cadeirydd wedi caniatáu digon o amser i'r Aelodau ei darllen, mewn
perthynas â'r eitemau cais ar yr agenda gyhoeddedig. Roedd y Cadeirydd wedi
caniatáu iddi gael ei dosbarthu/hystyried ar frys yn y cyfarfod heddiw, am y
rheswm a'r amgylchiadau penodol nad oedd yn dymuno gohirio unrhyw geisiadau ac
er mwyn sicrhau bod Aelodau yn ystyried yr holl wybodaeth berthnasol ychwanegol
cyn dod i unrhyw benderfyniad yn y cyfarfod.
Dogfennau ategol: