Agenda item

Craffu Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gufer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet:

Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2019-2020

Croesawodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg ar gyfer 2019-2020.

Roedd yr Aelodau'n falch o glywed, o edrych ar yr ystadegau, fod nifer y staff a gofrestrodd i ddysgu Cymraeg wedi cynyddu. 

Gofynnwyd a fyddai effeithiau COVID-19, yn arbennig adleoli staff, yn cael effaith gyffredinol ar y gwaith yr oedd Grŵp Swyddogion y Gymraeg wedi'i gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf. Cadarnhaodd swyddogion fod y pandemig yn effeithio ar waith y grŵp; canslwyd cyfarfodydd y grŵp a chafodd rhai o'r swyddogion dan sylw eu hadleoli. Fodd bynnag, nodwyd bod rhai swyddogion wedi dechrau dychwelyd i'w swyddi go iawn, ac roedd cynlluniau ar waith i gynnal cyfarfod ym mis Medi lle byddai'r grŵp yn trafod canlyniadau'r adolygiad o'r ymarfer siopwr dirgel, gwerthusiadau o'r hyfforddiant a dderbyniodd rheolwyr atebol ym mis Mawrth 2020 a'r rhaglen waith wedi'i hail-flaenoriaethu am weddill y flwyddyn.

Yn yr adroddiad a ddosbarthwyd dywedwyd bod yr achosion o COVID-19 yn golygu y gwnaed newidiadau sylweddol i'r ffordd yr oedd y cyngor yn gweithredu ac oherwydd y sgiliau ieithyddol mewnol cyfyngedig, effeithiwyd ar allu'r cyngor i ddarparu cyfathrebiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg ei am gyfnod o amser. Tynnwyd sylw at y ffaith bod cynnydd wedi'i wneud ers hynny a bod y cyngor bellach yn cyhoeddi fersiynau Cymraeg a Saesneg o ddatganiadau i'r wasg ac wedi ailddechrau cyfrifon cyfryngau cymdeithasol Cymraeg a Saesneg; lle byddai post yn cael ei rannu gan drydydd parti, a oedd ar gael yn Saesneg yn unig, byddai staff yn ychwanegu sylwadau priodol yn Gymraeg ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Cymraeg. Soniodd swyddogion hefyd fod fideo 'Buy Local Welcome Back to Pontardawe' CNPT yn cynnwys perchnogion siopau Cymraeg a Saesneg a darparwyd isdeitlau ar gyfer y ddwy iaith. Cadarnhawyd hefyd fod y cyfrifon Cymraeg yn cael eu monitro ar gyfer negeseuon a lle'r oedd angen ymateb, byddai'n cael ei ddarparu yn Gymraeg. Hysbyswyd yr Aelodau mai'r darn nesaf o waith allweddol fyddai edrych ar dudalennau COVID-19 ar wefan y cyngor, lle'r oedd archwiliad eisoes wedi dechrau i ddileu gwybodaeth nad oedd yn berthnasol; byddai'r wybodaeth sy'n gorfod aros ar y wefan yn cael ei chyfieithu'n dilyn hyn.

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

'Safe and Well' CNPT – Cymorth dyngarol a ddarparwyd gan y cyngor mewn ymateb i'r pandemig COVID-19

Cafwyd trafodaeth mewn perthynas â'r rheini a oedd â hawl i gael cymorth gan y gwasanaeth 'Safe and Well', yn dilyn pryder yr Aelodau nad oedd y rhestr cymhwysedd yn cynnwys cleifion iechyd meddwl, yn arbennig y cleifion nad oeddent wedi derbyn llythyr gwarchod gan y GIG. Nodwyd gan fod unigolion sydd ar hyn o bryd yn derbyn cefnogaeth gan y gwasanaeth Safe and Well bellach yn cael eu trosglwyddo, a'u bod yn bobl yr oedd gan staff bryderon amdanynt, fod y gwasanaethau cymdeithasol yn ymwneud â hyn i sicrhau bod cymorth priodol ar gael. Gofynnwyd i'r Aelodau gyfeirio unrhyw unigolion yr oeddent yn pryderu amdanynt, at eu harweinwyr cymunedol. Ychwanegodd swyddogion, gan fod posibilrwydd y byddai angen darparu rhagor o gefnogaeth, y byddai staff yn edrych ar eu cynllunio wth gefn yn yr hydref; felly, pe bai Aelodau'n credu bod grwpiau o bobl wedi'u colli oddi ar y meini prawf, byddai swyddogion yn fodlon ystyried eu hadborth a'i gynnwys yn y cynllunio rhag rhaid.

Gofynnodd yr Aelodau a allai swyddogion ymhelaethu ar y mater o recriwtio cydlynydd gwirfoddolwyr. Dywedwyd na fwriedir i'r cydlynydd gwirfoddolwyr ddisodli'r arweinwyr cymunedol, yn hytrach bydd y cydlynydd gwirfoddolwyr yn rhyddhau rheolwr y gwasanaeth ieuenctid o'r gefnogaeth y bu'n ei darparu i'r gwirfoddolwyr a recriwtiwyd dros y misoedd diwethaf. Hysbyswyd yr Aelodau fod 200 o wirfoddolwyr gweithredol yn gweithio yn y gwasanaeth a bod angen i rywun barhau â rôl y cydlynydd gwirfoddolwyr ym mis Hydref pan fyddai rheolwr y gwasanaeth ieuenctid yn dychwelyd i'w ddyletswyddau arferol gan y byddai'r rôl yn sicrhau bod y gwirfoddolwyr yn dal i gael cymorth. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith y byddent yn ystyried datblygu cynigion ar rôl barhaus gwirfoddolwyr o fewn y cyngor rhwng nawr a mis Hydref ac y byddai Aelodau'n derbyn y cynigion hyn maes o law i'w hystyried. O ran yr arweinwyr cymunedol, soniwyd bod rhai wedi dychwelyd i'w swyddi go iawn, ond bod staff wedi bod yn ceisio cynnal y ddarpariaeth yn y cymunedau wrth i'r cyfnod trawsnewid ddigwydd. Cadarnhawyd y byddai swyddogion yn treulio amser yn trafod yr opsiynau sy'n ymwneud â disodli'r arweinwyr cymunedol ac y byddent yn rhoi cynllun ar waith, y byddent yn ymgynghori â'r Aelodau yn ei gylch, gan fod y swyddogion wedi ystyried yr adborth a gafwyd o'r Arolwg Aelodau mewn perthynas â chroesawu cydlynu ar lefel gymunedol. Ychwanegwyd bod Cam Adfer Coronafeirws y Panel Aelodau wedi sefydlu gweithdy ym mis Medi gyda'r gobaith o sefydlu argymhellion clir.

Amlygodd yr adroddiad fod y gwasanaeth dosbarthu bwyd yn cael ei oedi ar 16 Awst 2020, a gofynnodd yr Aelodau a fyddai'n cael ei ailddechrau ac a oedd y cyngor yn bwriadu i hyn ddigwydd. Cadarnhawyd bod y Prif Swyddog Meddygol wedi dweud bod y cyfraddau heintio ar hyn o bryd yn ddigon isel i roi hyder iddo y gellid llacio rhai o'r cyfyngiadau y gofynnwyd i unigolion a oedd yn gwarchod gydymffurfio â hwy, ym mis Awst; fodd bynnag, mewn rhai ardaloedd yn Lloegr bu cynnydd mewn cyfraddau heintio a oedd yn golygu y gofynnwyd i rai unigolion a fu'n gwarchod yn flaenorol ailgyflwyno rhai o'r cyfyngiadau. Soniwyd bod Llywodraeth Cymru wedi defnyddio'r gair 'oedi' yn hytrach na 'stopio' gan ein bod yn dal i fod yng nghanol y pandemig a gallai cyfraddau heintio godi eto. O ran y gwasanaeth bwyd, nodwyd nad oedd gan y Llywodraeth unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i ailgyflwyno'r gwasanaeth dosbarthu bwyd cenedlaethol am ddim, felly roedd angen i'r cyngor wneud cynlluniau lleol pendant i gefnogi pobl y gallai fod gofyn iddynt roi eu hunain dan gyfyngiadau pellach, pe bai cychwyniad bach neu fawr yn y cyfnod sy'n arwain at yr hydref. Cadarnhaodd swyddogion eu bod eisoes wedi dechrau ystyried hyn a'u bod yn gobeithio cael cynlluniau at raid ar gyfer gwahanol senarios yn barod ar gyfer diwedd mis Awst; ychwanegwyd bod siopau lleol bellach mewn sefyllfa wahanol, ers dechrau'r pandemig ym mis Mawrth, i ddarparu cymorth.

Cyfeiriodd yr Aelodau at Atodiad 4, y tabl gwersi a ddysgwyd, a gynhwyswyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd a gofynnwyd a fyddai unrhyw weithredu o ran dileu'r ymagwedd gorchymyn a rheoli, gan fod ei dileu, oherwydd y pandemig, wedi grymuso staff ac wedi annog meddwl mwy creadigol. Nodwyd y byddai swyddogion yn darparu cynllun gweithredu manylach yn erbyn yr holl elfennau a gynhwysir yn y tabl gwersi a ddysgwyd a'u bod yn dal i gael adborth a fyddai'n cael ei gynnwys yn y blaengynllunio ar gyfer yr hydref. Ychwanegwyd bod yr elfennau'n perthyn i ddau gategori cyffredinol:

1. Camau gweithredu y byddai angen eu cwblhau ar unwaith oherwydd yr angen i lywio cynlluniau ar gyfer yr hydref a'r posibilrwydd y gallai fod cynnydd mewn heintiau.

2. Newidiadau tymor hwy i'w datblygu, yn arbennig sut byddai diwylliant y cyngor yn cael ei ddatblygu

Gofynnwyd i swyddogion a oedd penderfyniad wedi'i wneud, yn seiliedig ar y gwersi a ddysgwyd, mewn perthynas â sut y byddai'r Cydlynwyr Ardaloedd Lleol (CALl) yn cael eu defnyddio. Tynnwyd sylw at y ffaith bod y rhan fwyaf o'r adborth a dderbyniodd Aelodau wedi dweud bod cydlynu ar lefel ardal leol wedi bod yn wirioneddol bwysig; cafwyd trafodaethau byr ar rôl y CALl yng Ngham Adfer Coronafeirws y Panel Aelodau ac roedd swyddogion wedi cyfarfod i nodi pa fath o gynigion y gellid eu llunio. Ychwanegodd swyddogion fod trafodaeth bellach wedi'i chynllunio yn y Panel Aelodau a'r Gweithdy Aelodau, i edrych ar rôl y CALl a lle byddai ymdrech ehangach y cyngor yn ymwneud â datblygu cymunedol, gan ystyried yr adborth o'r gwersi a ddysgwyd gan y Gwasanaeth 'Safe and Well' a'r hyn yr oedd yr Aelodau wedi'i fynegi.

Rhoddwyd canmoliaeth i'r cydlynwyr ardal am eu gwaith caled, effeithiolrwydd y Gwasanaeth 'Safe and Well', gwaith RADAR a pha mor dda y gweithiodd Age Cymru Gorllewin Morgannwg ac Age Connect gyda'i gilydd cyn sefydlu'r Gwasanaeth 'Safe and Well', ac yn ystod yr amser hwnnw.

Trafododd y pwyllgor yn fyr y galwadau ffôn a wnaed i'r rheini a oedd yn gwarchod nad oeddent wedi cysylltu drwy'r Gwasanaeth 'Safe and Well'. Mewn perthynas â hyn,  nodwyd bod y rhan fwyaf o'r unigolion y cysylltwyd â hwy wedi cadarnhau bod ganddynt gefnogaeth ar waith a olygai mai dim ond nifer bach o unigolion a atgyfeiriwyd o ganlyniad i'r galwadau ffôn. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith ei bod hi'n amlwg bod yr unigolion hyn wedi croesawu'r galwadau ac roedd staff wedi crybwyll ei bod wedi cymryd amser hir i weithio drwy'r rhestr alwadau oherwydd faint o amser yr oeddent yn ei dreulio ar y ffôn; roedd hyn yn rhywbeth y byddai angen ei ystyried, ac o bosib sut byddai cymunedau'n gallu cefnogi pobl yn y sefyllfa hon.

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet

Strategaeth Adfer

Mynegodd yr Aelodau eu gwerthfawrogiad o'r gwaith a oedd ynghlwm wrth baratoi'r Strategaeth Adfer a gwaith caled, ymrwymiad a hyblygrwydd gweithlu'r cyngor.

Trafodwyd gweithio yn y dyfodol, yn arbennig yr angen i sicrhau cydbwysedd rhwng gweithio o bell a mynychu swyddfeydd y cyngor, gan gofio ffactorau economaidd ac amgylcheddol, pwysigrwydd cymunedau a gwerth llywodraeth leol. Dywedodd swyddogion, o ran proses, y sefydlwyd y Panel Aelodau i ddarparu'r math hwn o gyngor i'r Cabinet, wrth i'r cyngor gynllunio'r cynlluniau adfer tymor hwy, ac y gellid defnyddio'r Panel i ddechrau ffordd o feddwl mewn perthynas â thrafodaethau ehangach. Nodwyd bod yr adroddiad a ddosbarthwyd yn nodi'r cyfnod sefydlogi, lle'r oedd gwasanaethau'r cyngor yn cael eu hailgychwyn a sicrhau bod y trefniadau Profi, Olrhain a Diogelu yn lleol ac yn rhanbarthol yn addas at y diben. Hysbyswyd yr Aelodau fod yr adroddiad yn rhoi darlun o'r hyn a ddigwyddodd hyd yma a sefyllfa bresennol y cyngor ac y bydd angen cynllunio pellach ar gyfer adferiad wrth symud ymlaen.

Nodwyd nad oedd digon o bwyslais yn yr adroddiad ar waith yr hyrwyddwyr cymunedol, sefydliadau, cynghorau cymuned a phartneriaid eraill ac y byddai'r grwpiau hyn yn hanfodol wrth symud ymlaen. Dywedodd swyddogion nad oedd yr adroddiad yn ceisio gwerthuso'r ymateb cymunedol gan fod hwn yn ddarn o waith yr oedd y Panel Aelodau wedi cytuno i'w wneud; roedd ymchwilydd allanol wedi'i gomisiynu i ddysgu gan y gymuned a chlywed eu barn ynghylch y ffordd y paratowyd yr ymateb. Tynnwyd sylw at y ffaith bod gan y cyngor ddiddordeb mewn deall sut y gellid annog hyn i barhau.

Tynnodd y Cynghorydd Woolcock sylw at aelodaeth y Panel a'r gorgyffwrdd sylweddol ag aelodaeth Pwyllgor Craffu'r Cabinet. Cytunwyd y byddai swyddogion yn rhoi cyngor i Arweinydd y Cyngor mewn perthynas â'r mater hwn

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.